Newyddion S4C

Diffyg goruchwyliaeth ‘wedi cyfrannu at farwolaeth' babi newydd-anedig

Rhieni Liliwen

Fe wnaeth diffyg goruchwyliaeth o fam mewn ysbyty yng Nghaerdydd gyfrannu at farwolaeth ei babi newydd-anedig, meddai crwner ddydd Mawrth.

Fe gafodd Emily Brazier, o Gaerdydd, ei derbyn i Ysbyty Prifysgol Cymru yn y ddinas i roi genedigaeth i’w merch fach, Liliwen Iris Thomas, ym mis Hydref 2022.

Fe gafodd ei hysgogi i roi genedigaeth (induce) y diwrnod canlynol ac fe gafodd pethidin a chodin, yn ogystal ag Entonox (nwy ac aer), i leddfu poen y noson honno.

Gofynnwyd i'w phartner Rhodri Thomas ddychwelyd adref oherwydd polisi a oedd ar waith bryd hynny o beidio â chael partneriaid ar y ward o 9pm i 9am, oni bai bod eu partner yn y broses o roi genedigaeth.

Clywodd y cwest bod Ms Brazier wedi syrthio i goma rhwng 1.00 a 2.15 ar Hydref 10 o ganlyniad i’r cyffuriau.

Roedd y fam ar wely gyda llenni o’i hamgylch ac ni wnaeth unrhyw un sylwi ei bod hi wedi dechrau rhoi genedigaeth.

Deffrodd Ms Brazier am 2.15am i ddarganfod bod Liliwen wedi'i geni a'i bod rhwng ei choesau, o dan y lliain gwely. 

Fe wnaeth staff meddygol ymdrechion i adfywio'r babi ond cyhoeddwyd bod Liliwen wedi marw am 10.40pm y diwrnod hwnnw.

'Pryderu'

Dywedodd Rachel Knight, crwner Canol De Cymru, wrth gwest ym Mhontypridd fod nifer o ffactorau wedi cyfrannu at farwolaeth Liliwen.

Dywedodd: “Bu farw Liliwen o anaf hypocsig i’r ymennydd yn dilyn genedigaeth heb oruchwyliaeth yn yr ysbyty.

“Cyfrannwyd at hyn gan nad oedd ei mam yn cael sylw mor aml nac yn cael ei gwirio mor rheolaidd ag y dylai.”

Wrth siarad ar ddiwedd cwest Liliwen ddydd Mawrth, dywedodd Ms Knight wrth deulu Liliwen ei bod “yn flin iawn ganddi” o glywed am ei marwolaeth.

“Doedd hyn yn ddim llai na thrasiedi,” meddai wrthyn nhw. “Ni allaf ddychmygu beth rydych chi wedi bod drwyddo.”

Dywedodd ei bod yn fodlon bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sy’n cynnal yr ysbyty, wedi gwneud newidiadau yn dilyn marwolaeth Liliwen.

Ond ychwanegodd: “Rwy’n parhau i bryderu nad yw’r gwersi sydd i’w dysgu o’r achos hwn wedi cyrraedd pob cwr o Gymru a Lloegr.”

Dywedodd y crwner y byddai'n ysgrifennu adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol ar gyfer y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) "gyda'r bwriad iddynt ystyried dysgu o achos Liliwen".

"Nid yw hyn i fod yn feirniadaeth ohonynt - mae ar gyfer cyfle dysgu," ychwanegodd.

Yn ystod y cwest, dywedodd Abigail Holmes, cyfarwyddwr gwasanaethau bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, fod y "drasiedi anhygoel" wedi arwain at newid.

"Cafodd pob aelod o staff eu hysgwyd gan hyn. Rydym yn gweithio'n ddiflino i sicrhau nad yw hyn byth yn digwydd eto," meddai wrth rieni Liliwen.

"Rwy'n gwybod nad yw hynny'n dod â'ch merch yn ôl ac mae'n ddrwg iawn gen i."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.