Newyddion S4C

Cymru angen osgoi colli er mwyn aros yn Ewro 2025

Cymru angen osgoi colli er mwyn aros yn Ewro 2025

Bydd angen o leiaf pwynt ar Gymru yn erbyn Ffrainc nos Fercher os ydyn nhw am gadw eu gobeithion yn fyw yn Ewro 2025.

Bydd Cymru yn wynebu y Les Bleues yn stadiwm St Gallen yn y Swistir gyda’r gic gyntaf am 20.00 ar S4C.

Mae'r bwcis yn gwneud Ffrainc yn ffefrynnau clir wedi iddyn nhw guro Lloegr 2-1 yn eu gêm agoriadol.

Daw hynny wedi i Gymru greu hanes yn eu gêm  yn erbyn Yr Iseldiroedd nos Sadwrn diwethaf wedi iddyn nhw gystadlu mewn prif gystadleuaeth ryngwladol am y tro cyntaf. 

Ond colli 3-0 wnaeth Cymru.

Fe wnaeth eu paratoadau ar gyfer Ffrainc ddioddef ergyd brynhawn ddydd Mawrth ar ôl i’w bws fod mewn gwrthdrawiad yn y Swistir. 

Fe gadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod pawb yn “iawn” wedi’r digwyddiad ond eu bod nhw wedi gorfod canslo eu sesiwn hyfforddi.

Dywedodd prif hyfforddwr tîm pêl-droed menywod Cymru, Rhian Wilkinson: “Rydym wedi ein hysgwyd, ond rydw i wedi cael sicrwydd fod pawb yn iawn.

“Rydym wedi paratoi ar gyfer yr annisgwyl a dwi’n credu mai dyna y gallwch chi alw’r sefyllfa yma."

Fe wnaeth hi annog ei thîm i "ddangos i Gymru pa mor falch ydyn ni o gynrychioli ein gwlad" pan fyddan nhw'n wynebu Ffrainc.

"Mae hwn yn gyfle gwych, mae hwn yn dîm da arall, ac mae'n gyfle arall i ni ddangos yr hyn ydan ni'n gallu ei wneud a chwarae hyd eithaf ein gallu.

"Mae pawb yn ymwybodol o'r hyn y mae'n ei olygu os nad ydyn ni'n cael pwynt, ond yn yr un modd mae'n ymwneud â chyflwyno perfformiad mor gryf ag y gallwn i gael cyfle arall i ddangos i Gymru pa mor falch ydyn ni o gynrychioli ein gwlad."

'Moyn ennill'

Wrth i Gymru baratoi ar gyfer eu hail gêm erioed yn Euro 2025 nos Fercher, mae rhai o’u cefnogwyr ifanc yn ffyddiog y bydd y tîm yn “neud yn dda.” 

Ac er mai colli oedd eu hanes o 3-0, mae rhai o’u cefnogwyr yn obeithiol y gallant daro nôl wedi'r siom heno. 

Mae Martha, Annie a Saffi yn ddisgyblion yn Ysgol Dewi Sant yn Llanelli. 

Image
Martha
Martha o Ysgol Dewi Sant

Yn ôl Martha, fe fydd y gêm yn erbyn Ffrainc yn un “anodd” – “ond fi’n credu by’ nhw’n neud yn eitha’ da,” meddai. 

“Ond fi rili moyn ennill yn erbyn Lloegr,” ychwanegodd. 

Image
Annie
Annie

Dywedodd Annie: “Fi’n credu bydd Cymru yn neud yn dda yn erbyn nhw, ond credu bydd Ffrainc yn ennill 2-0 neu 2-1.” 

Mae Saffi yn dweud ei bod yn obeithiol y bydd Cymru’n ennill yn erbyn Ffrainc “ond eto maen nhw’n dau dîm da hefyd,” meddai. 

“Felly fi yn gobeithio mae Cymru yn ennill.” 

Image
Saffi
Saffi

Yr Her

Mae Cymru yn ymwybodol eu bod yn wynebu grŵp hynod o anodd yn y bencampwriaeth, gyda’r Iseldiroedd, Lloegr a Ffrainc hefyd yng Ngrŵp D. 

Fe enillodd Yr Iseldiroedd y bencampwriaeth yn 2017, roedd Ffrainc yn y rownd gyn-derfynol yn 2022 a Lloegr ydy'r pencampwyr presennol.

Os fydd Cymru’n colli eto yn erbyn Ffrainc yna fe fydd y twrnamaint ar ben iddyn nhw cyn eu gêm olaf yn y grŵp yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn. 

Fe fydd Lloegr hefyd yn herio’r Iseldiroedd nos Fercher a, gan ddibynnu ar y canlyniad yna, efallai y bydd angen ar Loegr i guro Cymru er mwyn parhau â’u gobeithion hwythau o ddal eu gafael ar y teitl fel pencampwyr.

Fe fydd gêm Cymru yn erbyn Ffrainc yn fyw ar S4C nos Fercher gyda’r gic gyntaf am 20:00.

Prif Lun: Jess Fishlock gan Huw Evans.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.