Newyddion S4C

‘Pam dyw hwn ddim yn anabledd lle allwch gael bathodyn glas?’

26/11/2021

‘Pam dyw hwn ddim yn anabledd lle allwch gael bathodyn glas?’

Mae elusen wedi dweud y dylai pobl sy’n byw ag anableddau cudd gael yr hawl i fathodyn glas sy'n dangos eu bod yn anabl.

Yn ôl merch 26 oed o Geredigion sy'n byw gyda chyflwr Colitis, mae "bob dydd yn her" wrth iddi wynebu cyfnodau o "boen eithriadol" oherwydd y cyflwr.

Yn aml, mae'n rhaid i Ffion Evans fynd i'r tŷ bach ar frys ac heb rybudd.

Dywedodd ei bod wedi ei chyhuddo o "ddweud celwydd" am ei hanabledd cudd yn y gorffennol ac y byddai cael bathodyn glas yn help i ddangos bod hawl ganddi i ddefnyddio tŷ bach ar gyfer pobl ag anableddau.

Dywedodd elusen Crohn’s and Colitis UK wrth Newyddion S4C y dylai cyflyrau iechyd o’r fath gael eu hystyried fel unrhyw anabledd arall.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud nad yw bathodynnau glas yn cael eu dosbarthu ar sail cyflwr penodol ond i bobl gyda heriau symudedd.

Image
x
Mae gan Ffion fag colostomi ers ei bod yn 11 oed.

Mae Ffion Evans, 26, o Saron ger Llandysul wedi byw gyda chyflwr Colitis ers yn 11 oed. Yn ôl Ffion, byddai’r hawl i ddefnyddio bathodyn glas yn dangos ei bod yn byw ag anabledd.

Dywedodd: “Fi’n cal adegau ble fi ffili symud o’r gwely fi mewn gymaint o boen.

“Hyd yn oed gyda colostomy bag fi'n dal i ddiodde, fi dal yn gorfod dibynnu ar y tŷ bach, fi dal yn gorfod dibynnu ar bobl i helpu fi, cal fi mas o'r gwely, helpu fi i fyta, mynd i'r tŷ bach, gyda tasgau bob dydd rili.

“Pam dyw hwn ddim yn cael ei adnabod fel anabledd fel bo chi'n cal bathodyn glas? Achos ni'n dioddef gymaint ag unrhyw un," ychwanegodd.

“Ma rhaid bo fi'n cyrradd y tŷ bach cyn gynted â phosib neu ma fe'n disaster basically. So pobl yn sylweddoli 'na."

'Fi yn anabl'

Yn ôl Ffion, mae wedi derbyn beirniadaeth a'i chyhuddo o "ddweud celwydd" am ddefnyddio tai bach ar gyfer pobl ag anabledd yn y gorffennol.

Dywedodd: “Fi'n trial egluro i bobl "alla i plis fynd i'r tŷ bach?".

“Fi'n gweud "o ma anabledd cudd 'da fi" a ma nhw'n meddwl bo fi'n gweud celwydd," ychwanegodd.

“Fi yn anabl. Ma da fi anabledd cudd. Felly ddylen i fod yn cal bathodyn.”

Dywedodd Ffion bod gorfod parcio’n bell oddi wrth tai bach cyhoeddus a chyfleusterau yn anodd.

Dywedodd: “Hyd yn oed yr ysbyty agosa i fi, fi'n gorfod parco reit ar gefen y car park, os fi'n teimlo'n dost a na'r rheswm fi'n mynd i weld doctor pam ma rhaid i fi rili pwsho'n hunan i gerdded?

“Fi ffili hyd yn oed cerdded, dyna'r rheswm fi 'na a pwy opsiwn sy 'da ni wedyn? Ma anabledd gyda fi.”

Image
x
Mae Non Angharad Williams wedi byw gydag afiechyd Crohn's ers yn wyth oed.

Mae Non Angharad Williams, 24, o Borthmadog yn byw gydag afiechyd Crohn’s sy’n debyg i gyflwr Colitis. Mae’r ddau gyflwr yn effeithio ar y coluddyn.

Mae Non wedi dechrau deiseb i roi’r hawl i bobl sy’n byw ag anabledd cudd i gael bathodyn glas.

Dywedodd: “Dw i'n dioddef 'flare ups' ac angen y tŷ bach yn sydyn. 

“Mae’n bryderus. Weithiau dw i’n dreifio o gwmpas yn aros am le parcio anabl i allu parcio ger toiledau cyhoeddus ond does dim hawl gen i wneud hynny.”

“Does dim byd yn amlwg i weld arnaf, dw i’n gwthio fy hun i wneud pethau felly mae pobl yn meddwl fy mod yn iawn," ychwanegodd.

"Dw i jyst yn trio codi ymwybyddiaeth gan bo gymaint ohonon ni'n byw gyda hyn."

'Teimlo'n ynysig'

Yn ôl elusen Crohn's & Colitis UK, mae mwy na 500,000 o bobl yn byw gyda'r cyflyrau sy'n effeithio ar y coluddyn yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Jackie Glatter, Rheolwr Polisi Crohn’s & Colitis UK: “Prif symptomau y cyflyrau gydol oes hyn yw dolur rhydd cyson a sydyn, poen a blinder eithriadol. Mae hyn yn golygu un eiliad, gallwch deimlo’n iawn, a’r eiliad nesaf, mae angen y tŷ bach arnoch ar unwaith.

“Ry’n ni eisiau gweld y problemau hyn yn cael eu hystyried yn yr un modd â symudedd a iechyd meddwl o ran cymhwysedd ar gyfer bathodynau glas fel rhan o bolisiau iechyd cyhoeddus yng Nghymru,” ychwanegodd.

“Gall Bathodyn Glas alluogi rhywun gyda Crohn’s neu Colitis barcio bellter byr oddi wrth eu gwaith a chyfleusterau eraill, os ydyn nhw wedi blino, yn sâl neu’n dioddef o boen yn y cymalau.

“Heb hyn, gall bobl deimlo’n ynysig adref gan effeithio ar eu gallu i weithio, cymdeithasu a gwneud ymarfer corff oherwydd gorbryder yn sgil y risg o gael damwain yn gyhoeddus."

'Adolygu eto'n fuan'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid yw bathodynnau glas yn cael eu dosbarthu ar sail cyflwr penodol ond i bobl gyda heriau symudedd.

"Mae hyn yn cynnwys pobl gydag anableddau cudd sydd methu cwblhau unrhyw siwrnai heb gymorth person arall neu gymorth gan gynnwys ci tywys ar gyfer pobl gyda chyflyrau sy'n effeithio ar eu gallu i weld a chlywed.

"Mae'r cynllun wedi profi nifer o adolygiadau ac adroddiadau ar hyd y blynyddoedd ac mae disgwyl iddo gael ei adolygu eto'n fuan."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.