Newyddion S4C

Cyhuddo dyn 25 oed o lofruddio menyw yn Rhondda Cynon Taf

26/11/2021
x

Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw 65 mlwydd oed yn Llanilltud Faerdref, Rhondda Cynon Taf.

Bydd Luke Deely, 25 oed, o Bontypridd, yn ymddangos gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener.

Cafodd June Fox-Roberts ei darganfod yn farw yn ei chartref ddydd Sul ar ôl i’r heddlu dderbyn galwadau gan aelod o’r teulu oedd yn bryderus amdani.

Dywed yr heddlu nad oes yna gysylltiad rhwng Ms Fox-Roberts a’r sawl sydd wedi ei gyhuddo.

Fe wnaeth teulu Ms Fox-Roberts ryddhau teyrnged yn gynharach yn yr wythnos yn disgrifio eu “sioc llwyr” o golli eu mam.

Cafodd ei disgrifio fel “menyw garedig, hael, oedd hapusaf pan yng nghwmni ei theulu.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 408848.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.