Newyddion S4C

Arestio dyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth menyw yn Rhondda Cynon Taf

23/11/2021
x

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth menyw 65 oed mewn tŷ yn Llanilltud Faerdref, Rhondda Cynon Taf.

Nid yw'r fenyw wedi cael ei hadnabod yn ffurfiol eto, ond dywedodd yr heddlu bod lle i gredu mai June Fox-Roberts, 65 oed yw enw'r fenyw fu farw.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai cartref Ms Fox-Roberts yw’r eiddo maen nhw wedi bod yn ei archwilio yn Rhodfa Santes Anne.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r stryd yn Llanilltud Faerdref tua 14:45 ddydd Sul 21 Tachwedd.

‘Menyw garedig’

Mae teulu Ms Fox-Roberts wedi ei disgrifio fel menyw ‘garedig a hael’.

“Rydyn ni mewn sioc lwyr ynglŷn â marwolaeth ein mam.

“Ni fydd ei llofruddiaeth byth yn gwneud synnwyr i ni.

“Roedd hi'n fenyw garedig, hael, oedd hapusaf pan yng nghwmni ei theulu.

“Roedd hi’n caru ei theulu’n annwyl ac ni fyddwn ni byth yr un peth. Rydym wedi torri ein calonnau.”

Mae presenoldeb yr  heddlu yn parhau ger y cartref  a'r tir o'i amgylch.

Bydd swyddogion yn parhau i gynnal ymholiadau o ddrws i ddrws yn yr ardal.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 408848.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.