Bygythiad Reform yn un 'difrifol iawn' medd Eluned Morgan
Mae Llafur Cymru yn ystyried bygythiad Reform UK fel un "difrifol iawn" meddai Prif Weinidog Cymru.
Wrth siarad gyda Sky News, dywedodd Eluned Morgan bod pleidleiswyr yng Nghymru angen deall "bygythiad Reform".
Dywedodd y gallai pethau maen nhw "wedi arfer â nhw", gan gynnwys cinio ysgol am ddim i blant cynradd a phresgripsiynau am ddim, gael eu "cipio oddi wrthyn nhw".
"Rydyn ni yn ei gymryd o ddifrif, ac rydyn ni yn meddwl bod bygythiad Reform yn fygythiad difrifol iawn," meddai Ms Morgan.
Mae polau piniwn diweddar, gan gynnwys un gan More In Common ar ran Sky News, wedi awgrymu y gallai Reform ddod yn gyntaf yn etholiadau'r Senedd yn 2026.
Yn ôl y pôl ar gyfer Sky News, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, byddai 28% o bobl Cymru yn cefnogi Reform. Byddai Plaid Cymru yn ail gyda 26%, a Llafur yn drydydd gyda 23%.
Roedd cwymp mawr wedyn o safbwynt cefnogaeth i'r Ceidwadwyr, gyda 10% o'r bleidlais, ac yna'r Democratiaid Rhyddfrydol gyda 7%.
Mae plaid Nigel Farage yn targedu etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf wrth iddyn nhw geisio adeiladu ar lwyddiant yr etholiadau lleol yn Lloegr y llynedd.
Ddydd Llun, fe gyhoeddodd cyn Ysgrifennydd Cymru, David Jones, ei fod yn ymuno gyda Reform.
'Arwain gyda'n gwerthoedd'
Mae Ms Morgan wedi cydnabod "bod yna bosibilrwydd" y gallai Reform ddod yn blaid fwyaf y Senedd, ond dywedodd y byddai yn "anodd iddyn nhw lywodraethu ar ben eu hunain".
Fodd bynnag, dywedodd na fyddai yn barod i glymbleidio gyda'r blaid, gan ddweud: "Fydden ni ddim yn ymwneud â nhw am bensiwn."
Fe wnaeth hi fynnu y gallai Llafur ennill pleidleisiau trwy fod yn "ddilys" a "chlir gyda phobl am yr hyn rydyn ni yn credu", yn hytrach na cheisio bod yn "fwy o Reform na Reform".
"Mae'n rhaid i ni arwain gyda'n gwerthoedd. Rydyn ni yn credu mewn dod â chymunedau at ei gilydd, yn hytrach na'u rhannu, a dwi'n meddwl mai'r hyn mae Reform eisiau gwneud yw rhannu pobl, ac mae'n rhaid i bobl wneud y penderfyniadau ar faterion fel 'na," meddai.
Llun: Ben Birchall/PA Wire