'Sawl cyfle wedi'i golli i fynd i'r afael ag ymddygiad Gregg Wallace'
Mae cadeirydd y corff sy'n gwarchod y diwydiannau creadigol wedi beirniadu pennaeth teledu am beidio â gweithredu'n gynharach i fynd i'r afael â chwynion am y cyflwynydd Gregg Wallace.
Daw ar ôl i dros 50 yn rhagor o bobl wneud honiadau newydd yn erbyn ymddygiad Wallace.
Mae Wallace wedi cael ei ddiswyddo fel cyflwynydd MasterChef yn dilyn ymchwiliad i'w ymddygiad honedig gan gwmni cynhyrchu Banijay.
Fe wnaeth o gamu yn ôl o gyflwyno'r gyfres goginio ym mis Tachwedd y llynedd yn dilyn cwynion ei fod wedi camymddwyn yn ei waith dros 17 mlynedd.
Dywedodd y bargyfreithiwr Helena Kennedy bod "sawl cyfle wedi ei golli" i weithredu yn erbyn ei ymddygiad honedig.
Roedd y darlledwr Kirsty Wark, yr actor Emma Kennedy a'r cyflwynydd Kirstie Allsopp ymhlith y rhai a gyflwynodd honiadau yn ei erbyn.
Mae Wallace yn gwadu'r honiadau yn ei erbyn.
Dywedodd y cwmni cynhyrchu Banijay yn flaenorol fod Wallace wedi "ymrwymo i gydweithredu’n llawn" â’r ymchwiliad.
Mae ei gyfreithwyr yn y gorffennol wedi gwadu'n gryf "ei fod yn ymddwyn mewn ffordd sy’n aflonyddu’n rhywiol" meddai BBC News.
Mae rhai o’r honiadau diweddar yn cynnwys gweithiwr MasterChef a ddywedodd iddi geisio cwyno am sylwadau honedig iddo eu gwneud am ei chorff yn 2022.
Mae cyn-heddwas hefyd wedi dweud ei fod wedi ceisio codi pryderon am ymddygiad Wallace ar ôl iddo honni iddo weld y cyflwynydd yn gwneud sylwadau rhywiol amhriodol mewn digwyddiad elusennol yn 2023.
Yn ôl BBC News roedd y rhan fwyaf o’r 50 o bobl wedi dweud ei fod wedi gwneud sylwadau rhywiol amhriodol, gydag 11 o fenywod yn ei gyhuddo o ymddygiad rhywiol amhriodol, gan gynnwys cyffwrdd a tharo.
'Ni fyddaf yn mynd yn dawel'
Dywedodd y gwasanaeth newyddion hefyd nad ydyn nhw wedi gweld adroddiad terfynol Banijay ond eu bod ar ddeall bod y cyflwynydd wedi cael ei ddiswyddo.
Ddydd Mawrth, fe wnaeth y cyflwynydd honni ei fod wedi cael ei glirio o’r "cyhuddiadau mwyaf difrifol" yn ei erbyn cyn i'r ymchwiliad gael ei gyhoeddi.
Mewn datganiad ar ei gyfrif Instagram, dywedodd: "Ni fyddaf yn mynd yn dawel. Ni fyddaf yn cael fy nghanslo er hwylustod.
"Cefais fy rhoi ar brawf gan y cyfryngau a’m gadael yn ddiamddiffyn cyn i’r ffeithiau gael eu sefydlu.
"Rhaid adrodd stori lawn yr anghyfiawnder anhygoel hwn ac mae’n fater o ddiddordeb cyhoeddus iawn."
Ychwanegodd hefyd ei fod yn cydnabod bod rhywfaint o’i hiwmor a’i iaith yn amhriodol "ar adegau" ac ymddiheurodd am hyn.
Yn ogystal â chyfresi MasterChef, mae Wallace wedi ymddangos ar sawl rhaglen ar y BBC dros y blynyddoedd.
Maen nhw'n cynnwys rhaglenni Inside the Factory, Eat Well For Less a Supermarket Secrets.
Fe wnaeth hefyd gystadlu yng nghyfres Strictly Come Dancing yn 2014.
Llun: Yui Mok/PA Wire