Tocynnau Oasis: Heddlu Dyfed-Powys yn arestio dyn 42 oed ar amheuaeth o dwyll
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 42 oed wedi honiadau o werthu tocynnau ffug i gyngherddau Oasis yng Nghaerdydd.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw wedi arestio'r dyn ar amheuaeth o dwyll drwy gynrychiolaeth ffug.
Dywedodd y llu eu bod ar hyn o bryd yn ymchwilio honiadau o dwyll yn dilyn adroddiadau o unigolyn yn gwerthu tocynnau Oasis ffug wedi'r cyngherddau diweddar yng Nghaerdydd.
Mae'r dyn 42 oed yn parhau yn y ddalfa, ac mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.
Fe wnaeth Noel a Liam Gallagher berfformio am y tro cyntaf mewn 16 mlynedd gyda'i gilydd, gan ddechrau eu taith fyd-eang yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf.