300 yn protestio yn erbyn cynllun posib i roi llety i geiswyr lloches yn Yr Wyddgrug

Newyddion S4C

300 yn protestio yn erbyn cynllun posib i roi llety i geiswyr lloches yn Yr Wyddgrug

Fe ddaeth tua 300 at ei gilydd yng nghanol Yr Wyddgrug ddydd Sadwrn i ddangos eu gwrthwynebiad i unrhyw gynllun i roi llety i geiswyr lloches mewn rhan o’r dref.
 
Gyda nifer yn chwifio baneri'r Undeb a’r Ddraig Goch, roedd y protestwyr yn anhapus ynglyn â sibrydion y gallai rhai fflatiau yn y dref gael eu defnyddio i gartrefu ceiswyr lloches.
 
Yn y cyfamser ben arall y stryd, roedd yna brotest arall hefyd - gan bobol fyddai’n barod i estyn croeso.
 
Ymhlith y tua 40 yn y grŵp yma, roedd baneri gyda’r geiriau "Na i hiliaeth" a "Croeso i geiswyr lloches” i’w gweld.
 
Ar un adeg yn ystod y prynhawn fe aeth pethau yn reit danllyd gyda’r heddlu yn sefyll rhwng y ddwy garfan.
 
Mi ddaeth y protestio i ben heb ormod o drafferth. Ond mae’r gwahaniaeth barn yn amlwg yn Yr Wyddgrug, fel mewn nifer o lefydd eraill ar hyn o bryd.
 

Dywedodd Netty Lloyd, 49, un o drefnwyr y brotest: "Rydw i wedi byw yn Yr Wyddgrug ar hyd fy oes. Mae angen i'n cymuned aros gyda'i gilydd, gofalu am ein gilydd, a chefnogi ein hunain yn gyntaf.

“Roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n hen amser yn lle rhannu ein barn ar y cyfryngau cymdeithasol mi roedden ni angen sefyll efo’n gilydd fel tîm, fel un, er mwyn i bobol wrando arno ni."
 
Image
protest wyddgrug
 
Fel rhan o grŵp y gwrth-brotestwyr, roedd brawd a chwaer o’r dref. 
 
Dywedodd Macs Mitton, 19: “Mae’n rhaid i ni wrthwynebu be sy’n digwydd, does dim lle i hyn yn ein tref ni.
 
“Odd o’n dda hefyd gweld gymaint o bobol yn cefnogi y symudiad yn erbyn y bobol oedd yn erbyn y pobol sydd yn dod yma."
 
Ychwanegodd Elina Mitton, 22: “Roedd yna llawer o bobol ar yr ochr arall jest yn bod yn ‘hateful’ iawn a da ni jest yma i gefnogi (y mudwyr)."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.