Criwiau wedi rheoli tân ar Fynydd Bodafon ym Môn
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi rheoli tân mawr ar Fynydd Bodafon ym Môn dros nos.
Mewn datganiad fore Sadwrn, dywedodd y gwasanaeth fod chwe injan a phedwar cerbyd tân gwyllt wedi bod bresennol fore Sadwrn.
"Mae ffyrdd cyfagos yn parhau ar gau i sicrhau fod y llwybrau yn glir i'r gwasanaethau brys," meddai'r datganiad.
Fe wnaeth y gwasanaeth hefyd yn annog pobl i aros i ffwrdd o'r ardal tra mae criwiau yn parhau i ddelio â'r tân, a chynghori trigolion lleol i gau ffenestri a drysau.
Doedd dim sôn fod unrhyw un wedi cael ei anafu yn y digwyddiad na bod y tân wedi cyrraedd tai cyfagos.
Ar y gwaethaf, roedd yn ymestyn 1,50o o fetrau sgwar.
Mewn datganiad nos Wener, fe ddywedodd y gwasanaeth fod nifer o bobl wedi troi fyny yn yr ardal nos Wener a bod cerbydau'n rhwystro'r llwybrau i'r gwasanaethau brys.
Ychwanegodd y datganiad eu bod yn annog y cyhoedd i gadw draw o'r ardal a pheidio parcio ar y ffyrdd ger y digwyddiad er mwyn caniatáu i'r criwiau barhau i ddelio â'r tân.
Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod yn parhau i dderbyn llawer o alwadau am y digwyddiad, gan annog pobl i beidio â ffonio 999 i roi gwybod am y digwyddiad eto gan eu bod eisoes yn bresennol ac yn ymwybodol.
Llun: Mark Denton
