Cyhuddo dyn o lofruddio menyw 32 oed yng Nghaerdydd
Mae dyn 37 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio menyw 32 oed yng Nghaerdydd ddydd Iau.
Mae Thisara Weragalage wedi ei gyhuddo o lofruddio Nirodha Niwunhella, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Sadwrn.
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd teulu Nirodha Niwunhella: "Rydym yn cofio Nirodha fel merch annwyl, aelod o'r teulu a ffrind annwyl i nifer.
"Bydd Nirodha yn cael ei chofio am byth gyda heddwch, cariad a diolchgarwch.
"Fe wnaeth ei charedigrwydd a'i chynhesrwydd gyffwrdd â nifer o fywydau a bydd ei hatgof yn parhau i'n hysbrydoli.
"Er i'w bywyd ddod i ben yn rhy fuan, bydd y cariad a rannodd bob amser yn aros gyda ni. Gorffwysa mewn heddwch, angel."
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, DCI Matthew Davies: "Mae fy nghydymdeimlad diffuant gyda theulu, ffrindiau ac anwyliaid Nirodha wrth iddynt ddod i delerau â'r golled drasig hon.
"Mae gennym swyddogion wedi'u hyfforddi'n arbennig i gefnogi ei hanwyliaid ar hyn o bryd ac yn gofyn am barchu eu preifatrwydd.
"Rwy'n parhau i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth ac sydd heb siarad â swyddogion eto i ddod ymlaen a chefnogi ein hymchwiliad.