Ofnau am effaith cau toiledau cyhoeddus Llangrannog

Llangrannog
Llangrannog

Mae ofnau y gall toiledau cyhoeddus gau yn un o bentrefi glan môr mwyaf poblogaidd Ceredigion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion (CSC) ar hyn o bryd yn ymgynghori â chynghorau tref a chymuned i weld a fyddant yn cymryd y cyfrifoldeb am redeg toiledau yn eu hardal.

Mae deiseb o bron i 1,400 o lofnodion yn gwrthwynebu cau toiledau yn Llangrannog eisoes wedi’i chasglu.

Gallai cau'r toiledau hyd yn oed effeithio ar allu plant Gwersyll yr Urdd y pentref i ymweld â'r traeth, meddai Pwyllgor Lles Llangrannog.

Mae’r ddeiseb yn datgan: “Mae toiledau cyhoeddus yn agwedd sylfaenol ar iechyd a diogelwch y cyhoedd, yn enwedig mewn cyrchfan dwristaidd boblogaidd fel Llangrannog.

“Gall diffyg mynediad at doiledau cyhoeddus arwain at broblemau hylendid, problemau iechyd, a phryderon diogelwch, gan effeithio ar drigolion ac ymwelwyr. 

"Mae gan Gyngor Sir Ceredigion gyfrifoldeb i sicrhau bod cyfleusterau glanweithdra digonol yn cael eu darparu i’r cyhoedd.

“Fel cyrchfan dwristaidd boblogaidd, mae Llangrannog yn profi nifer fawr o ymwelwyr, yn enwedig yn ystod y tymhorau brig. 

"Mae cynnal toiledau cyhoeddus yn hanfodol ar gyfer rheoli effaith ymwelwyr ar yr amgylchedd a’r gymuned leol.

“Dylai CSC ystyried goblygiadau hirdymor eu penderfyniadau ynghylch darparu toiledau cyhoeddus, gan sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau’r ardal hefyd heb wynebu heriau glanweithdra. 

"Byddai’r pentref yn colli ei statws Baner Las heb y toiledau. Ni fyddai Gwersyll yr Urdd Llangrannog bellach yn gallu ymweld â’r traeth gyda’r miloedd o blant y maent yn eu croesawu bob blwyddyn.”

Image
Toiledau Llangrannog
Mae'r toiledau wrth ymyl y traeth yn Llangrannog

Dywedodd Ysgrifennydd Pwyllgor Lles Llangrannog, a chynghorydd cymuned Llangrannog, Dr Kathryn Dawes: “Nid oes amheuaeth bod y cyfleusterau’n hanfodol yn Llangrannog – nid yw’r cyngor yn anghytuno â hyn, ond maent yn dweud na allant eu rhedeg bellach fel y maent yn ei wneud nawr.

“Y broblem benodol gyda Llangrannog yw nad yw ein cyngor cymuned yn addas i redeg y toiledau fel y mae’r cyngor yn disgwyl i bob cyngor tref/cymuned ei wneud. 

"Rydym yn gyngor bach heb unrhyw brofiad blaenorol o fod yn berchen ar/cynnal a chadw cyfleusterau ac nid oes gennym yr arian chwaith (byddai’n rhaid i ni ddyblu’r praesept i hyd yn oed ddechrau eu cymryd ymlaen).

“Mae CSC wedi gorfodi hyn ar bob un ohonom; mae rhai cynghorau fel Aberporth yn fwy, mae ganddyn nhw fwy o arian, maen nhw’n fwy deinamig a gallant ei reoli. Ni all Llangrannog. 

"Mae gennym ni hefyd (ar gyfer maint ein pentref a nifer y trigolion gwirioneddol) nifer anghymesur o ymwelwyr gan gynnwys y cannoedd o blant sy’n dod i lawr bob dydd drwy gydol y flwyddyn o Wersyll yr Urdd.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo mai cyfrifoldeb y Cyngor yw hwn hyd yn oed os nad yw’n ddyletswydd statudol – mae iechyd a diogelwch, twristiaeth a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn dangos hyn yn glir.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae gan Geredigion 33 o doiledau cyhoeddus. Ar hyn o bryd mae’r cyngor yn ymgysylltu â chynghorau tref a chymuned i weld a fyddant yn cymryd y cyfrifoldeb am redeg toiledau yn eu hardal.

“Yn y rhan fwyaf o achosion, mae cytundebau lefel gwasanaeth neu brydlesi yn cael eu datblygu i gadw toiledau ar agor yn y sir.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.