'Angen ystyried dedfryd yn y carchar am gam-drin hiliol' medd Antoine Semenyo
Mae chwaraewr Bournemouth Antoine Semenyo yn dweud bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael â hiliaeth mewn pêl-droed, gan gynnwys dedfrydau carchar posibl i'r rhai sy'n eu cael yn euog.
Mae'r ymosodwr yn dweud iddo ddioddef hiliaeth gan rywun yn y dorf yn y gêm rhwng Bournemouth a Lerpwl ar 15 Awst, a phenderfynodd y dyfarnwr Anthony Taylor roi'r gorau i'r chwarae am gyfnod wedi 29 munud o chwarae.
Siaradodd â'r rheolwyr Arne Slot ac Andoni Iraola, cyn i'r capteiniaid Virgil van Dijk ac Adam Smith gael eu galw i drafod ymhellach.
Cafodd neges gwrth hiliaeth ei darllen i'r dorf yn Anfield, a'r gred yw fod plismyn wedi mynd i ystafell y dyfarnwr yn ystod hanner amser.
Cyhoedoddd Heddlu Glannau Mersi fod dyn 47 oed o Lerpwl wedi ei arestio.
Ymddangosodd yn y llys ac mae bellach wedi ei wahardd o bob stadiwm yn y DU fel rhan o'i amodau mechnïaeth.
Wrth siarad gydag ITV News, fe ddywedodd Semenyo "mae'n rhaid bod rhywbeth arall" y gall yr awdurdodau ei wneud.
Wrth gael ei holi am y gosb uchafswm y dylai unrhyw un ei wynebu yn sgil cam-driniaeth hiliol, dywedodd: "Gallai fod yn amser yn y carchar, neu gael eich gwahardd o stadiymau am oes, rhywbeth fel hynny, ond dwi'n teimlo bod rhaid fod yna rhywbeth arall."
Sgoriodd Semenyo ddwywaith yn yr ail hanner yn erbyn Lerpwl.
Ychwanegodd ei fod wedi dioddef cam-driniaeth hiliol ar-lein yn syth ar ôl y gêm yn Anfield hefyd.
"Mae rhywun wedi teimlo'r angen i ddod ar-lein a gwneud hynny, felly ro'n i'n teimlo'n flin oherwydd hynny. Pam y byddech chi eisiau gwneud hynny?" meddai.