Dafydd Iwan: 'Ddim am orffen canu yn gyfan gwbl'
Dafydd Iwan: 'Ddim am orffen canu yn gyfan gwbl'
Mae Dafydd Iwan yn dweud mai nid dyma'r diwedd yn gyfan gwbl, wrth iddo baratoi am ei noson olaf yn chwarae gyda'r band yng Ngŵyl Llanuwchllyn.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd y canwr: "Does ‘na ddim pwrpas dweud ’Dwi ddim yn mynd i ganu byth eto' achos dio ddim y math o beth ‘dach chi’n gallu stopio, mae o yr un fath â anadlu.
"Bydd rhaid i fi ganu ryw emyn bach fan hyn, a chân fach fan draw, sgwrs a chân fydda i’n gwneud mewn cymdeithasau lleol, bydd hynny yn parhau."
Fe gafodd Dafydd Iwan ei wahodd i ganu ei gân enwocaf, Yma o Hyd, yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn gemau ail gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Awstria ac Wcráin yn ogystal â'i chanu wedi'r chwiban olaf ar ôl i Gymru sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth.
Ychwanegodd na fyddai'n gwrthod y cynnig i wneud hyn eto pe bai'n cael ei wahodd i wneud.
"Pe bai Ian Gwyn [Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru] yn galw am un perfformiad cyn gêm ryngwladol, fyswn i ddim yn gwrthod, na fyswn.
"Ond ma’r nosweithie gigs mawr efo band yn dod i ben."
Ychwanegodd: "Ond fydda i dal i ganu, dal i roi ryw gân yma ag acw, achos y cyfan dw i wedi ei gael ers i hyn ddod yn gyhoeddus ydi ‘Ti’m o ddifri nag wyt?’ ‘Di hon ddim yn noson ola’ go iawn?’
"Wel, ydi fel noson gyfan gyda’r band, ma’ hi’n noson ola."
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd ei fod yn anodd dewis un uchafbwynt o’i holl flynyddoedd yn canu, a bod yn rhai yn hytrach drafod “cyfnodau”.
“Roedd y 90au yn gyffrous iawn, iawn i ni,” meddai.
“Roedd hi wedi bod yn gyfnod llwm yn ystod yr 80au ac mi gychwynnais i efo’r band yn 1988 ym Mhafiliwn Corwen.
“O’dd y Cnapan yn y 90au. Ambell noson yn y ’Steddfod ac yn y Sioe yn Llanelwedd.”
Wedi canu ym mhob un Eisteddfod ers 60 mlynedd, fe gyhoeddodd y canwr mai Eisteddfod Wrecsam ychydig wythnosau yn ôl fydd y tro olaf iddo berfformio ar Lwyfan y Maes.