
‘Angerdd, calon a hyder’: Cymru'n herio’r Alban yng Nghwpan Rygbi’r Byd
Mae cyd-gapten Cymru Kate Williams wedi addo y bydd Cymru’n chwarae gydag "angerdd, calon a hyder" yn erbyn yr Alban yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan Rygbi’r Byd y Menywod yn Salford ddydd Sadwrn.
Mae’r Alban yn yr wythfed safle yn rhestr detholion y byd, un safle yn uwch na Chymru.
Felly mae cryn bwysau ar Gymru i ennill y gêm agoriadol os ydyn nhw am fynd ymhellach yn y gystadleuaeth.
Fe fydd yr Alban yn sicr am dalu’r pwyth yn ôl i Gymru wnaeth ennill eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd yn 2022 o 18-15 diolch i gic gosb Keira Bevan ar ôl 85 munud.
Bryd hynny fe lwyddodd Cymru i gyrraedd rownd yr wyth olaf er iddyn nhw ddod yn drydydd yn eu grŵp ond fe gollon nhw o 55-3 yn erbyn Seland Newydd a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth.
Canada, sy’n ail ar restr detholion y byd, yw’r ffefrynnau i ennill y grŵp gyda Chymru a’r Alban yn debygol o frwydro am yr ail safle.
Fe fydd Cymru'n wynebu Canada a Ffiji ar y dyddiau Sadwrn canlynol.
Fe fydd y tîm sy'n ennill y grŵp a'r tîm sy'n ail yn mynd yn eu blaenau i rownd wyth olaf y gystadleuaeth.

Fe gafodd Cymru hwb i’w hyder trwy guro Awstralia mewn gêm ar eu taith yno yn ystod yr haf.
Dywedodd y mewnwr Keira Bevan eu bod hi’n awchu am y gystadleuaeth a bod y garfan wedi datblygu yn y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd: "Rydw i wedi dysgu llawer dros y flwyddyn ddiwethaf o safbwynt rheoli gêm, fy nghicio a'r ffordd rydw i'n gweld y gêm.
"Rydw i'n gyffrous i ddysgu llawer mwy a pharhau i wthio fy hun."
'Enfawr'
Dywedodd cyd-gapten Cymru, Kate Williams eu bod nhw'n "chwilio am berfformiad".
“Rydym ni eisiau bod yn dîm anodd i’w guro. Rydym ni eisiau i’r gwrthwynebwyr feddwl, ‘O, mae Cymru nesaf - mae hynny’n mynd i fod yn brawf enfawr i ni’.
"Ond rydym ni hefyd eisiau chwarae gydag angerdd, chwarae gyda chalon a chwarae gyda hyder.
"Rwy’n credu bod hynny’n enfawr i’n tîm wrth fynd i mewn i ymgyrch a all fod yn hir.”
Dywedodd y prif hyfforddwr Sean Lynn: "Mae'r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a'r staff yn gwybod pa mor fraint yw bod yma a chynrychioli Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd."
Dywedodd capten yr Alban, Rachel Malcolm:“Rydyn ni’n eithaf lwcus nad yw egni yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni geisio’i greu o unman.
"Mae gennym ni grŵp sy’n llawn cymeriadau ar ac oddi ar y cae, felly fy swydd i yw mesur ble mae angen i mi ryw fath o leddfu’r cyffro a’r egni ychydig.
“Mae cyrraedd Cwpan y Byd i lawer o bobl, eu Cwpan y Byd cyntaf, ynddo’i hun yn gyffro mawr. I ni, mae’n ymwneud â chanolbwyntio ar y rygbi, canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei reoli a hyd yn hyn, alla i ddim beio’r grŵp.”
Lluniau: Asiantaeth Huw Evans