Cymru'n colli yn erbyn Yr Alban yng Nghwpan Rygbi'r Byd

Cymru v Yr Alban

Mae tîm marched Cymru wedi colli yn erbyn yr Alban o 8-38 yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Salford ddydd Sadwrn.

Mae hyn yn golygu bod gobeithion Cymru o fynd ymlaen i'r rownd nesaf drosodd i bob pwrpas.

Roedd yr Alban am dalu’r pwyth yn ôl i Gymru wnaeth ennill eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd yn 2022 o 18-15 diolch i gic gosb hwyr iawn gan Keira Bevan.

Fe ddechreuodd pethau yn y modd gwaeddaf posib i Gymru wrth i'r Alban sgorio o fewn munud. 

Fe ymosododd maswr yr Alban, Helen Nelson ar hyd yr ystlys chwith gan ryddhau'r asgellwr Fansecsa McGhie wnaeth frasgamu drosodd am gais o 27 diolch i daclo gwael gan Gymru. Cymru 0-5 Yr Alban .

Fe ddilynodd cyfnod da i Gymru o ran meddiant a thiriogaeth gyda'r blaenwyr yn dangos eu cryfder yn erbyn eu gwrthwynebwyr. Daeth cyfle i Gymru ar ôl 13 munud yn dilyn cic gosb gyda'r cyd-gapten Alex Callender yn croesi dan y pentwr. Cymru 5-5 Yr Alban .

Ond byr fu gorfoledd Cymru wrth i olwyr yr Alban ddangos eu doniau unwaith yn rhagor gyda McGhie yn croesi am ei hail gais yn llydan ar y chwith ar ôl 17 munud. Cymru 5-10 Yr Alban.

Fe ddaeth Cymru yn ôl o fewn dau bwynt i'r Alban ar ôl 25 munud o gic gosb gan y mewnwr Keira Bevan yn dilyn gwaith arweiniol da unwaith eto gan y blaenwyr. Cymru 8-10 Yr Alban.

Fe gododd cefnogwyr Cymru ar eu traed ar ôl 27 munud pan redodd yr asgellwr Jamine Joyce-Butchers o 22 ei hunain i 22 yr Alban ond yn anffodus fe ildiodd y blaenwyr gic gosbmewn safle ymosodol arbennig o dda.

Roedd olwyr yr Alban ar flaen y gad eto ar ôl 31 munud wrth greu eu trydydd cais o'r gêm gyda'r mewnwr Leia Brebner-Holden yn croesi wrth i flaenwyr Cymru ildio ciciau cosb yn agos at y linell gais. Fe drosodd y maswr Helen Nelson i ymestyn blaenoriaeth ei thîm. Cymru 8-17 Yr Alban.

Daeth cyfle i Gymru daro nôl ar ôl 37 munud pan wnaeth y cefnwr Nel Metcalfe ail-gydio yn y bêl o gic dros ben olwyr yr Alban am rediad o 50 metr. 

Fe ildiodd yr Alban gic gosb wedi hynny ond yn anffodus cafodd blaenwyr Cymru eu cosbi am gamsefyll o'r lein wnaeth ddilyn. 

Y sgôr ar yr hanner: Cymru 8-17 Yr Alban.

Ergyd drom

Fe ddechreuodd yr ail hanner yn debyg i'r cyntaf gydag amddiffyn llac yn rhoi'r cyfle i McGhie oresgyn taclo gwael i groesi am ei thrydydd cais. Fe drosodd Nelson i ymestyn y sgôr. Cymru 8-24 Yr Alban.

Fe fyddai'n rhaid i Gymru sgorio nesaf os am unrhyw obaith i ennill.

Cafodd eu gobeithion ergyd arall pan dderbyniodd ail reng Cymru Gwen Crabb gerdyn melyn am dacl beryglus a Chymru heb ddangos fawr o arwyddion o daro nôl.

Daeth eiliad dyngedfennol yn y gêm wrth i'r Alban ennill cic gosb o sgrym rymus yn 22 Cymru. Roedd hyn fel petai wedi sugno'r egni allan o Gymru. Fe redwyd y bêl gyda'r wythwr Evie Gallagher yn croesi am bumed cais ei thîm. Fe drosodd Nelson i ddodi'r gêm tu hwnt i Gymru. Cymru 8-31 Yr Alban.

Ergyd drom i Gymru ond roedd yr Alban llawer yn drech na nhw ac yn llwyr haeddu'r fuddugoliaeth.

Fe rhwbiodd yr Alban halen yn y briw gyda chweched cais ar ôl 77 munud gyda Nelosn yn trosi. 

Y sgôr terfynol: Cymru 8-38 Yr Alban.

Fe fydd Cymru nawr yn wynebu Canada a Ffiji ar y dyddiau Sadwrn nesaf.

Fe fydd y tîm sy'n ennill y grŵp a'r tîm sy'n ail yn mynd yn eu blaenau i rownd wyth olaf y gystadleuaeth.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.