
Dros 70 o gwynion am sŵn ar ôl cyfres o gyngherddau yng Nghaerdydd
Mae Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod nhw wedi derbyn degau o gwynion yn dilyn cyfres o gyngherddau ym Mharc Biwt yr haf hwn.
Daw wrth i nifer heidio i’r brifddinas ar gyfer cyngerdd Stevie Wonder ym Mharc Biwt nos Fercher.
Dyma fydd y pedwerydd cyngerdd i gael ei gynnal ar gaeau’r parc fel rhan o ŵyl newydd Blackweir Live eleni.
Ond mae’r cyngor wedi dweud bod nifer wedi mynegi eu hanfodlonrwydd gyda’r trefniadau, a hynny ar ôl iddyn nhw dderbyn dros 70 o gwynion am lefelau sŵn yn yr ardal.
Noah Kahan oedd y cyntaf i berfformio fel rhan o Blackweir Live ar 27 Mehefin, gydag Alanis Morissette ar y llwyfan ar 2 Gorffennaf wedi’i dilyn gan Slayer ar 3 Gorffennaf.
Roedd Cyngor Caerdydd wedi derbyn 48 o gwynion wedi cyngerdd Alanis Morissette. Fe gododd y nifer hynny i 76 o gwynion wedi cyngerdd Slayer.

Roedd y cynghorwyr lleol ar gyfer Cathays – sef Sarah Merry, Ali Ahmed, Norma Mackie a Chris Weaver – wedi mynegi pryderon am yr ŵyl cyn i'w thrwydded gael ei chymeradwyo.
Fel rhan o’r drwydded, dim ond chwech ‘prif ddigwyddiad’ all gael ei chynnal yno yn ystod y flwyddyn.
Fe allai digwyddiadau gael eu cynnal ar unrhyw ddiwrnod rhwng 09.00 a 22.30.
Roedd tîm arbenigol yn y cyngor sy’n delio â llygredd sŵn wedi dweud y bydd yn rhaid i gynllun fydd yn rheoli lefelau sŵn gael ei gyflwyno iddynt o leiaf 28 diwrnod cyn pob digwyddiad, neu ar ddechrau cyfres o ddigwyddiadau.
Fel rhan o’r drwydded mae'n rhaid i gynlluniau nodi y lefelau sŵn disgwyliedig, yn ogystal â chynllun i reoli a monitro aflonyddwch sy’n cael ei achosi gan lefelau sŵn uchel.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Mae’r cyngor eisoes wedi ymrwymo i gynnal adolygiad llawn o’r digwyddiadau unwaith y byddant wedi dod i ben.
“Bydd adborth gan y cyhoedd yn cael ei ystyried fel rhan o’r broses hon.”