Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Mae'n fore Mercher, 24 Tachwedd a dyma olwg ar brif straeon y bore o Gymru a thu hwnt.
Dyfodol ansicr i wasanaeth newyddion Golwg360 ar ôl colli nawdd
Mae gwasanaeth newyddion digidol Golwg360 yn wynebu dyfodol ansicr yn dilyn colli nawdd gan Gyngor Llyfrau Cymru.
Roedd Golwg360 yn derbyn nawdd o £200,000 y flwyddyn gan y Cyngor ers 2009 ond mae Newyddion S4C yn deall y bydd yr arian yn cael ei haneru i £100,000 y flwyddyn yn y dyfodol.
Gofal nyrsys plant anabl yn Abertawe yn ‘hollol annerbyniol’ - ITV Cymru
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi disgrifio ymddygiad nyrsys a oedd yn gofalu am blant anabl yn “hollol annerbyniol”.
Mae adolygiad i ofal a gafodd ei roi gan Wasanaeth Nyrsio Plant yn y Gymuned (CCNS) wedi datgelu "diffyg ymddiriedaeth" gan deuluoedd a staff.
'Dwsin' o ASau Ceidwadol wedi cyflwyno llythyr o ddiffyg hyder yn Boris Johnson - The Sun
Mae Ceidwadwyr blaenllaw wedi rhybuddio bod dwsin o ASau wedi anfon llythyron yn galw am newid i arweinyddiaeth y blaid.
Mae'r llythyron yn agor y drws i'r posibilrwydd o her i arweinyddiaeth Boris Johnson pe bai digon o lythyron yn cael eu hanfon.
Angen 'gwthio newid' yng nghamp pêl-droed merched yng Nghymru
Mae seren bêl-droed Cymru a phrif gynghrair America [NWSL] Jess Fishlock, wedi dweud bod "angen gwneud mwy i wthio newid" gyda'r gamp i fenywod yng Nghymru.
Mewn sgwrs arbennig gyda chyn-gapten Cymru Laura McAllister mewn rhaglen ddogfen ar S4C, mae'r chwaraewr pêl-droed proffesiynol o Gaerdydd wedi rhannu ei phryderon am ba mor gyfartal yw'r gêm.
Seland Newydd i groesawu teithwyr rhyngwladol eto o'r flwyddyn nesaf - Sky News
Bydd teithwyr sydd wedi eu brechu'n llawn rhag y coronafeirws yn gallu teithio i Seland Newydd o 30 Ebrill 2022.
Fe fydd hyn yn dod â diwedd i gyfyngiadau teithio llym sydd wedi bod yn eu lle ers mis Mawrth 2020.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.