Newyddion S4C

Gofal nyrsys plant anabl yn Abertawe yn ‘hollol annerbyniol’

ITV Cymru 24/11/2021
S4C

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi disgrifio ymddygiad nyrsys a oedd yn gofalu am blant anabl yn “hollol annerbyniol”.

Mae adolygiad i ofal a gafodd ei roi gan Wasanaeth Nyrsio Plant yn y Gymuned (CCNS) wedi datgelu "diffyg ymddiriedaeth" gan deuluoedd a staff. 

Cafodd yr adolygiad ei gynnal yn dilyn cyfres o adroddiadau ITV Cymru gyda theuluoedd plant anabl ym mis Mawrth eleni.

Roedd teuluoedd yn honni bod uwch nyrsys wedi gwneud honiadau anhysbys a ffug i'r gwasanaethau cymdeithasol, wedi tynnu gofal yn ôl ar gam ac yn bygwth tynnu plant oddi wrth eu rhieni.

Fe ddywedodd un teulu bod yr heddlu wedi cael eu galw i’w drws ar ôl iddynt gwyno am eu triniaeth ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae’r adolygiad yn dangos:

  • Bod teuluoedd sy'n derbyn gofal yn dweud bod sancsiynau yn cael eu gosod arnynt os oeddent yn cwyno;
  • Bod 90% o'r teuluoedd yn yr adolygiad a wnaeth gwyn "heb dderbyn sylw digonol" i'w pryderon;
  • Bod staff o fewn CCNS yn dweud eu bod yn teimlo'n "ddigalon" ac yn "rhwystredig" â'u gwaith;
  • Bod penderfyniadau gan reolwyr CCNS wedi gwneud y tu allan i ganllawiau Llywodraeth Cymru.

Mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, Mark Hackett, wedi disgrifio canlyniad yr adolygiad fel un "cwbl annerbyniol".

Dywedodd: “Yn anffodus, mae’n amlwg o’r adroddiad annibynnol hwn bu materion difrifol yn ymwneud â darpariaeth gofal a’r diwylliant arweinyddiaeth yn ein Gwasanaeth Nyrsio Plant yn y Gymuned ers tipyn.”

"Mae hyn yn hynod siomedig ac yn gwbl annerbyniol. Ar ran y bwrdd iechyd, ymddiheuraf i'r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio".

Image
Dywedodd Robert Channon o Abertawe bod rheolwr wedi "ceisio dinistrio eu bywydau".

Dywedodd Robert Channon o Abertawe fod ei deulu wedi dioddef ymgyrch o aflonyddu a bwlio gan y nyrsys yn nhîm Gwasanaeth Nyrsio Plant yn y Gymuned wrth ofalu am ei fab anabl Gethin.

Dywedodd Robert fod y rheolwyr wedi ceisio "dinistrio eu bywydau" ac wedi danfon swyddogion heddlu i'w cartref ar ôl cwyno ar gyfryngau cymdeithasol.

"Doedden nhw ddim yn hoffi'r ffaith ein bod wedi cwyno amdanynt ac o ganlyniad i hynny fe wnaethant geisio dinistrio ein bywydau, ac i ryw raddau, fe wnaethant gyflawni hynny” dywedodd wrth ITV Cymru 'nôl ym mis Mawrth. 

“Bob tro mae cnoc ar y drws... rydw i’n poeni mai'r heddlu, unwaith eto, sydd wedi cael eu hanfon i'n tŷ ".

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Rydyn ni'n gwybod bod teuluoedd yn chwarae rhan hynod bwysig yng ngofal plant â phroblemau iechyd parhaus. Felly mae'n hanfodol eu bod yn cael eu hystyried yn rhan o dîm y GIG.

"Yn anffodus, mae'r adroddiad yn dangos mai nad dyma brofiad y rhieni yma. Gallwn sicrhau y bydd hyn yn newid.

"Gwneir pob ymdrech i sicrhau y bydd y gwasanaeth yn llawer mwy cynhwysol yn y dyfodol, ac yn canolbwyntio ar anghenion y plentyn unigol," ychwanegodd.

"Ein blaenoriaethau nawr yw atgyweirio perthnasoedd â theuluoedd a gweithio ochr yn ochr er mwyn gwella ein gwasanaethau."

Darllenwch weddill y stori yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.