Chwilio Afon Taf ar ôl adroddiadau am gorff yn y dŵr
Mae’r gwasanaethau brys yn chwilio Afon Taf ar ôl adroddiadau am gorff yn y dŵr.
Mae Heddlu De Cymru yn chwilio'r afon ger Treharris, Merthyr Tudful.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn galwad am 21.30 nos Fawrth.
Dywedodd y Prif Arolygydd Dan Howe: "Mae chwilio yn mynd rhagddo gan Heddlu De Cymru gyda chymorth Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS), Gwylwyr y Glannau EM a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
“Hyd yn hyn nid ydym wedi dod o hyd i gorff.
“Mae’r chwilio yn dal i fynd yn ei flaen, ac rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2500352357."
