Y Mwslim cyntaf erioed yn cael ei ethol fel maer Efrog Newydd
Mae'r Democrat Zohran Mamdani wedi cael ei ddewis fel maer newydd Efrog Newydd, y Mwslim cyntaf i gael ei ethol i'r swydd.
Yn 34 oed fo ydy'r ieuangaf i wneud y rôl ers 1892.
Fe benderfynodd fynd amdani'r llynedd heb fawr o arian na chefnogaeth sefydliadol gan y blaid a doedd na fawr neb yn gwybod amdano.
Mae ei lwyddiant felly yn erbyn y cyn lywodraethwr Andrew Cuomo ac Curtis Silwa oedd yn cynrychioli'r Gweriniaethwyr yn rhyfeddol.
Doedd araith Mamdani nos Fawrth ddim yn un oedd yn collfarnu Trump drwyddi draw. Yn hytrach fe soniodd am ei weledigaeth i wneud Efrog Newydd yn ddinas oedd yn fforddiadwy a hygyrch i ystod o drigolion. Ymhlith ei addewidion oedd bysiau cyflym a rhai am ddim a rhewi rhent ar gyfer fflatiau.
"Yn y cyfnod yma o dywyllwch gwleidyddol, Efrog Newydd fydd y golau," meddai.
Yn ogystal ag Efrog Newydd mae'r Democratiaid yn dathlu yn nhaleithiau Virginia a New Jersey hefyd gyda'r darogan y byddan nhw yn ennill yno.
Nos Fawrth dywedodd cyn arlywydd America, Barack Obama fod y dyfodol yn edrych "ychydig yn fwy disglair" yn sgil y buddugoliaethau.
Mae maer Llundain, Syr Sadiq Khan hefyd wedi llongyfarch Mamdani. Ar X dywedodd: "Roedd pobl Efrog Newydd yn wynebu dewis clir- rhwng gobaith ac ofn- ac fel y gwelon ni yn Llundain- gobaith wnaeth ennill."
Dyma oedd yr etholiadau mwyaf yn America ers i Donald Trump gael ei ethol am yr ail dymor yn Arlywydd.
Llun: Reuters
