Diffoddwyr tân yn galw am 'fwy o gyllid ar frys' cyn noson tân gwyllt
Wrth i ddiffoddwyr tân baratoi ar gyfer un o'u nosweithiau prysuraf y flwyddyn mae Undeb Y Frigâd Dân (FBU) Cymru yn galw am "fwy o gyllid ar frys."
Dywedodd Gareth Tovey o'r FBU bod cynnydd sylweddol wedi bod mewn tanau dros y misoedd diwethaf, yn enwedig yn yr haf.
Mae'r rhain ochr yn ochr â thoriadau i ddiffoddwyr tân wrth gefn, yn ei gwneud yn anodd i'r gwasanaeth tân ymateb yn sydyn i alwadau.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru mae 1 o bob 4 diffoddwr tân wrth gefn yn y wlad wedi cael eu colli oherwydd toriadau.
"Mae'n debyg mai dyma un o'n diwrnodau prysuraf yn y flwyddyn," meddai Gareth Tovey wrth Newyddion S4C.
"Ond yr hyn y byddwn i'n dweud yw nad ydym yn gweld adnoddau'n dynn ar noson tân gwyllt yn unig, er y bydd hynny'n debygol o fod yn broblem.
"Mae adnoddau'n dynn oherwydd nad ydyn wedi derbyn digon o arian ac mae problemau, problemau penodol iawn yng Nghymru o amgylch gorsafoedd tân wrth gefn."
Ychwanegodd: "Mae'n broblem recriwtio ymhlith diffoddwyr tân wrth gefn, ond mae hynny'n effeithio ar Gymru llawer mwy oherwydd ein bod yn fwy dibynnol yng Nghymru ar ddiffoddwyr tân wrth gefn, a hynny oherwydd ein tirwedd wledig.
"Mewn llawer o'r cymunedau gwledig hyn, maen nhw'n gweld gorsaf dân wrth gefn drws nesaf iddyn nhw ac yn gweld injan dân y tu mewn, weithiau rhwng naw a phump o'r gloch.
"Ond yn yr amser yna rhwng dydd Llun i ddydd Gwener, dyw e ddim ar gael oherwydd nad oes criwiau ar gael."
'Effaith'
Erbyn mis Medi eleni roedd gwasanaethau tân yng Nghymru a Lloegr wedi ymateb i 996 o ddigwyddiadau tanau gwyllt, sef y nifer uchaf ar gofnod.
Mae hynny wedi i nifer y diffoddwyr tân sydd yn gweithio ostwng 25% ers 2008, sy'n cyfateb i tua 11,000 o aelodau criwiau llawn amser, yn ôl Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân.
Mae Undeb y Frigâd Dân yn rhoi pwysau ar y Canghellor Rachel Reeves i roi mwy o gyllid iddynt pan fydd y Gyllideb yn cael ei chyhoeddi ar 26 Tachwedd.
Yng Nghymru, mae'r gwasanaethau tân yn derbyn cyllid trwy ardoll gan awdurdodau lleol, sydd yn cael eu harian gan Lywodraeth Cymru trwy grantiau.
Dywedodd Gareth Povey bod yr undeb yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i dderbyn mwy o gyllid, gan fod mwy o arian i'r gwasanaethau cyhoeddus yn arwain at "effeithio ar gyllid i Gymru" trwy Fformiwla Barnett.
"Rydym yn trafod gyda Llywodraeth Cymru wrth gwrs, ond o bersbectif ariannu mae pethau'n fwy cymhleth," meddai.
"Mae ein ffocws mwy ar y Gyllideb yn San Steffan oherwydd mae'n debyg y byddai buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus yn gweld effaith ar Fformiwla Barnett ar gyfer cyllid cyffredinol Llywodraeth Cymru.
"Ac fe fydd hynny'n cryfhau cyllid awdurdodau lleol, a fyddai wedyn yn cryfhau cyllid y gwasanaeth tân."
