Rhai ysgolion ar gau a symud pobl o'u tai wrth i lifogydd daro y de-orllewin
Mae glaw trwm wedi achosi llifogydd mewn sawl ardal yn ne-orllewin Cymru, gyda rhai ysgolion yn gorfod cau a pobl wedi gorfod cael eu symud o'u tai.
Roedd yn rhaid i'r gwasanaethau brys gasglu pobl o'u tai yn Sanclêr (llun uchod) a Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin nos Fawrth wrth i'r dŵr godi.
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Darren Price wrth Radio Cymru ei bod hi wedi bod "yn noson digon anodd yma yn Sir Gearfyrddin".
"Mae'r gwasanaethau brys wedi bod allan yn symud trigolion mewn rhai esiamplau, fel Hendy-gwyn yn benodol," meddai.
"Mae ochr gorllewinol y sir wedi cael hi'n wael iawn.
"Mae'r effaith yn Hendy-gwyn yn dra wahanol - rydan ni'n son fan 'na am orfod symud pobl o'u cartrefi wrth gwrs a'u cefnogi nhw nawr dros yr oriau nesaf."
Mae ysgolion Bro Myrddin, Y Frenhines Elisabeth, a Thre Ioan yng Nghaerfyrddin, Ysgol Bro Dinefwr ger Llandeilo, ysgolion Lacharn a Llanmilo ar arfordir deheuol Sir Gaerfyrddin, ac Ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn ar Daf ar gau ddydd Mercher oherwydd y llifogydd.
"Yn anffodus, mae'r hewl i ysgol Bro Myrddin o dan ddŵr ac nid yw'n bosibl dod i'r ysgol," meddai Ysgol Bro Myrddin, gan ychwanegu bod arholiadau TGAU yn cael eu hail-drefnu.
Dywedodd Ysgol Bro Dinefwr: "Oherwydd tywydd garw a natur beryglus rhai ffyrdd, gwnaed y penderfyniad anodd i gau'r ysgol heddiw."
Mae Ysgol Sant Aidan yr Eglwys yng Nghymru yn Sir Benfro hefyd ar gau o ganlyniad i'r tywydd garw.
Achub o gar
Roedd rhybudd melyn am law mewn grym tan 8:00 fore Mercher, sydd bellach wedi dod i ben. Mae 16 o rybuddion llifogydd yn parhau mewn grym, a 42 o rybuddion i fod yn barod am lifogydd.
Mae amodau gyrru yn heriol mewn mannau. Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi galw ar bobl i beidio gyrru drwy lifogydd.
Rhwng Caerfyrddin a Hendy-gwyn ar Daf does dim trenau ar hyn o bryd am fod dŵr wedi gorlifo ar y cledrau.
Yn Sir Gaerfyrddin mae un tafarn wedi bod yn rhannol dan ddŵr ac un coleg wedi gorfod cau ei ddrysau oherwydd y llifogydd.
Rhannodd tafarn y Cresselly Arms ym Mhontargothi luniau o'u tafarn dan ddŵr gyda'r llifogydd yn llifo drwy'r ffenestri yno.
Inline Tweet: https://twitter.com/robharries83/status/1985745041995022602
Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru eu galw yno i gynorthwyo gyda gwagio'r dŵr o'r dafarn brynhawn ddydd Mawrth.
Fe wnaethon nhw achub dau berson o gar yn Saron yn Llandysul hefyd yn sgil llifogydd.
Yn Llandeilo fe benderfynodd Coleg Sir Gâr gau'r campws ddydd Mawrth ac fe fydd y campws ar gau dydd Mercher oherwydd llifogydd.
Mewn datganiad dywedodd y coleg: "Bydd Campws Gelli Aur ar gau i ddysgwyr a staff ddydd Gwener oherwydd tywydd garw a llifogydd. Bydd gwersi'n cael eu cynnal ar-lein.
"Bydd pob campws arall yn aros ar agor fel yr arfer."
Rhybuddion llifogydd
Ar draws de, gorllewin a chanolbarth Cymru mae 16 o rybuddion llifogydd mewn grym a 41 rhybudd 'byddwch yn barod' am lifogydd.
Mae sawl un o'r rhain yn rhybuddion coch.
Mae’r rhybuddion coch ar gyfer yr afonydd hyn:
Afon Ritec yn Ninbych y Pysgod
Afon Tywi rhwng Llandeilo a Lanwrda
Afon Taf yn Nhrefechan, Hendy-gwyn
Afon Taf yn Ffordd yr Orsaf, Hendy-gwyn
Afonydd Taf a Gronw i'r dwyrain o Stryd Sant Ioan, Hendy-gwyn
Afonydd Taf a Gronw i'r gorllewin o Stryd Sant Ioan, Hendy-gwyn
Afon Tywi wrth Hen Heol Llangynnwr, Caerfyrddin
Afon Teifi yn Llechryd
Afon Teifi yng Nghenarth
Afon Teifi yng Nghastellnewydd Emlyn
Afon Tyweli yn Ffordd yr Orsaf, Llandysul
Afon Cothi mewn ardaloedd isel
Afon Tywi wrth Gei Caerfyrddin, Caerfyrddin
Afon Tywi, eiddo ynysig rhwng Llandeilo ac Abergwili
Afon Hydfron yn Llanddowror
Afon Cynin yn Sanclêr
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod negeseuon awtomatig wedi eu hanfon i bobl yn yr ardaloedd lle mae rhybuddion coch mewn grym.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw'n "monitro'r sefyllfa" ym mhob ardal ar hyn o bryd.
Yn Abertawe, mae cylchfan Cwmbwrla dan ddŵr eto wedi llifogydd difrifol yno ym mis Medi.
Mae disgwyl i Ffordd Goetre Fawr yng Nghilâ a Nghwmbwrla a chylchfan Cwmbwrla fod ar gau "am beth amser" meddai'r heddlu.
Ychwanegodd Cyngor Abertawe bod eu "tîm priffyrdd ar y safle" ac y byddant yn "darparu diweddariadau pellach ar y problemau llifogydd yn y lleoliad."
