Goroeswr Foden: Adolygiad Ymarfer Plant yn ‘syfrdanol, dinistriol ac yn taro’n galed’
04/11/2025Goroeswr Foden: Adolygiad Ymarfer Plant yn ‘syfrdanol, dinistriol ac yn taro’n galed’
Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid
Mae cyn-ddisgybl a gafodd ei grwmio gan y cyn-brifathro Neil Foden wedi disgrifio canfyddiadau adroddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant (CPR) fel rhai "syfrdanol, dinistriol ac yn taro’n galed".
Roedd 'Jo' - nid ei henw go iawn - yn arfer mynychu Ysgol Friars ym Mangor, ac fe ddywedodd wrth Newyddion S4C, fod rhannu ei phrofiadau gyda thîm yr adolygiad a chlywed yr hyn a ddatgelwyd yn "ofnadwy o anodd."
'Jo' yw’r unig ddioddefwr/goroeswr sydd wedi siarad yn gyhoeddus ers i'r achosion o gam-drin gan y cyn-brifathro ddod i'r amlwg, gan ddweud iddi gael ei grwmio gan Foden am bum mlynedd, gan ddechrau pan oedd hi’n ddisgybl, a bod 'uwch aelodau' o staff yr ysgol yn ei gweld yn aml yn swyddfa Foden, ond fod neb erioed wedi gofyn wrthi os "oedd popeth yn iawn?."
Dywedodd hefyd fod athrawon wedi’i gweld yn mynd i mewn i’w gar ym maes parcio’r ysgol heb ofyn cwestiynau.
Mae 'Jo' hefyd yn dweud fod "ymateb Cyngor Gwynedd i’r pryderon yn chwerthinllyd o wael."
"Mae derbyn pryderon gan staff ysgol ac asiantaethau eraill a gwneud dim byd amdanynt yn anffodus ac yn anfaddeuol" meddai.
"Drwy anwybyddu’r rhybuddion, fe gafodd Foden rwydd hynt i barhau. Ac roedd caniatau i ddo gael dyrchafiad a mwy o gyfrifoldebau yn rhoi mwy fyth o ddisgyblion yn ei ofal er mwyn iddo allu eu targedu" ychwanegodd 'Jo'.
Wrth edrych yn ôl ar ei hamser yn yr ysgol ac mewn gofal, dywedodd 'Jo' ei bod wedi cael ei "gadael i lawr" gan yr union bobl oedd i fod i’w hamddiffyn.
Dywedodd ei bod yn "flin ac yn dorcalonnus" i glywed faint o bryderon oedd wedi’u codi yn yr adroddiad ond heb eu hymchwilio’n briodol.
Disgrifiodd 'Jo' ei hun bryd hynny fel rhywun "bregus oedd yn agored iawn i niwed" a bod ganddi neb i droi ato.
"Roedd pobl i fod i’m cadw’n ddiogel," meddai. "Os 'di nhw wedi methu fy amddiffyn i, pwy arall maen nhw wedi methu ag amddiffyn?
"Gallai cymaint o bobl fod wedi atal yr hyn oedd yn digwydd.
"Dwi wir yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn gorfodi’r holl bobl hynny i gymryd cyfrifoldeb ac i gydnabod eu methiannau amddiffyn plant.
"Rwyf wir yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn sbarduno newid ymhlith y bobl hynny, ac y bydd mwy o bobl ledled y wlad yn gallu dysgu o’r profiad erchyll yma."
‘Fe wnaeth Foden ymosod ar fy mab - mae’n gwneud i mi deimlo mor flin’
Mae mam o Fangor wedi dweud wrth Newyddion S4C fod Neil Foden wedi ymosod ar ei mab yn Ysgol Friars yn 2021, a hynny bythefnos yn unig i mewn i’w dymor cyntaf yno.
Dywedodd Dawn Roberts fod ei mab 11 oed, sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn “fach am ei oedran”, wedi cael ei ddal i lawr gan Foden a oedd “mwy neu lai wedi eistedd ar ei ben”.
Fe wnaeth Ms Roberts gysylltu â’r tîm CPR a chafodd wybod y byddai achos ei mab yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad.
Mae hi wedi penderfynu siarad yn gyhoeddus am ei phrofiadau am y tro cyntaf, gan ddweud wrth Newyddion S4C fod y digwyddiad yn dal i’w “phoeni”.
Yn ôl Ms Roberts, digwyddodd hynny ar ôl i’w mab fethu â chadw pecyn o gardiau chwarae yn yr ysgol. Cafodd Foden ei alw a gwaethygodd y sefylla’n gyflym.
Roedd lluniau teledu cylch cyfyng, a gafodd eu gweld gan Ms Roberts, yn dangos ei mab yn ceisio cerdded i ffwrdd sawl gwaith.
“Fe wnaeth Foden ddal ynddo drwy roi ei ddwylo ar ei ysgwyddau, ei droi o gwmpas, ei ddal i lawr a chamu drosto gyda’i ddwylo ar frest Harvey,” meddai.
Fe wnaeth staff ffilmio’r digwyddiad, ac yn ôl honiadau mae modd clywed Harvey yn erfyn ar Foden i’w ryddhau.
Yr heddlu
Yn dilyn y digwyddiad, fe wnaeth Dawn Roberts ofyn am gofnodion ysgol ei mab, a gafodd eu hanfon at adolygydd i’w golygu yn gyntaf. Dywedodd fod yr hyn a ddigwyddodd nesaf wedi ei synnu.
Fe wnaeth yr adolygydd gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru a’r gwasanaethau cymdeithasol ynglyn â phryderon diogelu, gyda’r heddlu’n dod i gartref Ms Robers i ofyn iddi i ystyried cyflwyno achos yn erbyn Foden.
“Roedden nhw’n amlwg yn ddigon pryderus i ddod ata i. Es i ddim atyn nhw,” meddai.
Ar ôl i Foden gael ei gwestiynu, cafodd Ms Roberts wybod nad oedd digon o dystiolaeth i gymryd camau pellach yn ei erbyn.
“Yr hyn dwi ddim yn ei ddeall ydi pam roedd digon o dystiolaeth i’r heddlu ddod ata i, ond yna, ar ôl cyfweliad Foden gyda’i gyfreithiwr, fe wnaeth y cyfan ddiflannu,” meddai. “Does neb yn fodlon dweud artha i be ddigwyddodd.”
Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae Ms Roberts yn dweud nad yw hi wedi derbyn esboniad gan unrhyw un eto.
Mae hi’n dweud ei bod hi’n aml yn “teimlo’n euog” am beidio â gwneud mwy i wthio ei hachos yn erbyn Foden, ond ar y pryd, roedd cymryd camau pellach yn rhy gostus.
“Pe bawn i wedi gwneud mwy, a fyddwn i wedi achub y merched? Allwn i fod wedi helpu rhywun petawn i weidio trio’n fwy caled?”
Pryderon blaenorol
Dywedodd Dawn Robers iddi ddarganfod bod Cyngor Gwynedd wedi adolygu ymddygiad Foden yn 2019.
Mae hi’n dweud ei bod wedi synnu ei fod wedi gallu bod mor ymosodol tuag at ei mab mor fuan ar ôl adolygiad swyddogol.
“Byddech chi’n meddwl y byddai ar ryw fath o brawf, y byddai’n cael ei wylio,” meddai. “Pam nad oedden nhw’n cadw llygad arno?”
Roedd yn rhaid i’w mab sefyll prawf tri mis pan gafodd ei wahardd o Ysgol Friars.
“Tri mis i blentyn 11 oed, ond doedd neb yn ei wylio [Foden],” meddai.
Gan ddisgrifio Foden fel person “ffroenuchel”, dywedodd Ms Roberts: “Mae o’n meddwl ei fod yn well na phawb. Mae o’n meddwl ei fod uwchlaw popeth.”
Mae hi’n credu ei fod yn edrych i lawr ar blant o ardal Maesgeirchen, sef un o’r ystadau tai mwyaf yng ngogledd Cymru.
Roedd ei mab wedi mynd i Ysgol Glan Cegin, ysgol gynradd ar yr ystad. Roedd yn teithio ar fws Maesgeirchen i Ysgol Friars.
‘Roedd Foden yn tybio bod modd cymryd mantais ohona i, ond doedd ‘na ddim,” meddai.
“Fe wnes i frwydo.”
Tu hwnt i droseddau rhyw Foden , mae nifer fawr o bryderon wedi eu codi am ei agwedd "fombastic" a'r ffaith ei fod wedi wynebu honiadau o fwlio ar sawl achlysur. Mae un cyn-athrawes yn honni bod ei theulu wedi cael eu 'targedu’ gan Foden ar ôl codi pryderon am fwlio yn Ysgol Friars.
Dywedodd Julia Lock, 46, sy'n gyn-athrawes gyflenwi o Wynedd, fod ei mab wedi cael ei fwlio yn yr ysgol pan oedd yn 12 oed.
Cododd ei phryderon gyntaf ym mis Chwefror 2011, ond dywed na chafodd unrhyw ymateb i’w llythyrau na’i cheisiadau am gyfarfod â Foden.
Wedi digio, cysylltodd â’i chynghorydd lleol a’i AS, a oedd yn "barod i helpu" meddai, ond fe barhaodd y mater heb ei ddatrys.
Dywedodd Julia fod y sefyllfa wedi gwaethygu pan ymyrrodd ei brawd, Andrew, a oedd yn gweithio yn yr ysgol.
Roedd Andrew Lock, 44, yn rhannol fyddar ac yn rhannol ddall, ac wedi gweithio fel technegydd cymorth TG yn Ysgol Friars ers 15 mlynedd.
Ym mis Gorffennaf 2011, eisteddodd gydag Julia ym mhrif swyddfa'r ysgol tra’r oedd hi’n ceisio siarad â Foden am sefyllfa bwlio ei mab.
Ar ôl aros dros ddwy awr, dywedodd uwch aelod o staff wrthynt nad oedd Foden ar gael, gan adael y ddau unwaith eto, heb atebion.
Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, cafodd Andrew ei atal o’r gwaith, wedi’i gyhuddo o ‘weithredu yn erbyn aelod uwch o staff’ oherwydd ei ymateb y prynhawn hwnnw.
Mae’r teulu’n anghytuno â’r honiad, gan ddweud fod Foden wedi bod yn eu targedu. "Roedd fel petai ganddo ysbïwyr ym mhobman," meddai Andrew. "Os byddai rhywbeth yn denu ei sylw, byddai’n dechrau chwarae gemau."
Fe effeithiodd y digwyddiadau yma ar y teulu'n fawr, ac fe geisiodd Andrew ladd ei hun.
"Dinistriodd Foden fy mywyd yn llwyr. Lladrataodd fy mywyd," meddai Andrew wrth Newyddion S4C.
Ar ôl gwrandawiad disgyblu, dychwelodd Andrew i Ysgol Friars ym mis Ionawr 2012, ond dywedodd fod Foden wedi cynyddu ei lwyth gwaith i lefel "anreolus", gan ei adael yn orbryderus ac yn isel ei ysbryd.
"Rwy’n credu bod Neil Foden fel meistr pypedau - yn feistr ar drin pobl. Rwyf am i bobl wybod hyn i atal hyn rhag digwydd eto."
Ar ôl misoedd o bryder fod triniaeth Foden o achosion bwlio heb ei herio, cysylltodd Julia Lock ag Adran Addysg Gwynedd, Heddlu Gogledd Cymru, ac asiantaethau eraill, gan gynnwys Estyn, arolygiaeth addysg Cymru.
"Mae gennyf bentyrrau o lythyrau ac e-byst, ond ni wrandawodd neb," meddai.
Mae Newyddion S4C wedi gweld nifer o’r llythyrau hyn, y mae Julia yn dweud eu bod yn dangos sut yr oedd Foden yn rheoli’r naratif ac y bu’r awdurdodau’n ymddangos fel pe baent yn derbyn ei fersiwn ef o’r digwyddiadau.