'Cywilydd cenedlaethol': Cyhoeddi adroddiad damniol am fethiannau yn achos Neil Foden

Cynhadledd / Foden

Mae adroddiad damniol sydd wedi ei gyhoeddi am sut yr oedd modd i'r cyn bennaeth ysgol Neil Foden gam-drin plant wedi ei disgrifio fel "cywilydd cenedlaethol" gan y comisiynydd plant.

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at dros 50 o gyfleon a gollwyd gan asiantaethau o fis Ionawr 2017 (yn seiliedig ar y digwyddiad cyntaf i gael ei gofnodi) tan 6 Medi 2023, sef diwrnod ei arestiad.

Roedd Neil Foden yn cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd fel pennaeth Ysgol Friars ym Mangor ac wedi bod yn bennaeth strategol dros dro yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.

Cafodd ei ganfod yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin pedair merch yn rhywiol rhwng 2019 a 2023. Ers euogfarn Foden ym mis Gorffennaf 2024, mae rhagor o ddioddefwyr wedi camu ymlaen.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, Nia Jeffreys bod yr achos yn un "ysgytwol" a'i bod hi wedi ei "ffieiddio" gan fanylion yr adroddiad.

Y dioddefwyr oedd ar "flaen ei meddwl" meddai gan ddweud bod yr effaith arnyn nhw wedi bod yn "bellgyrhaeddol".

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, bod manylion yr adroddiad yn “frawychus” ac yn “gywilydd cenedlaethol”.

Nid yn unig oherwydd nifer y plant a gafodd eu cam-drin gan Foden ac yr amser a pharhaodd hyn, ond hefyd nifer y cyfleoedd a gollwyd i’w atal rhag cam-drin plant,” meddai.

'Neb wedi ystyried'

Wedi i’r achos troseddol ddod i ben, comisiynwyd Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

Dechreuodd y broses ym mis Awst 2024 ac mae’n cael ei gadeirio gan Jan Pickles OBE.

Dywedodd Jan Pickles bod Neil Foden wedi "targedu plant yr oedd yn gwybod oedd yn agored i niwed".

"Roedd Neil Foden yn bedoffeil soffistigedig a greoedd ddiwylliant oedd yn caniatau iddo droseddu yn agored," meddai.

Dywedodd yr adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru bod angen “newid diwylliannol” wrth ymateb i bryderon am unigolyn sy’n gweithio gyda phlant. 

“Mae’r adolygiad wedi amlygu, yn syml, na wnaeth yr un oedolyn proffesiynol a oedd yn gweithio gyda phlant ystyried bod disgyblion yn cael eu cam-drin yn rhywiol gan Bennaeth eu hysgol,” meddai awduron yr adroddiad.

Dywedodd yr adroddiad: “Bu posib i Foden fanteisio ar fylchau yn y fframwaith cyfredol, gan ddibynnu ar ddiffyg dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol o modus operandi troseddwyr rhyw a sut maent yn meithrin perthynas amhriodol nid yn unig gyda’u dioddefwyr ond hefyd yn yr amgylchedd maent yn gweithio ynddo.” 

“Drwy hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, mae’n rhaid annog gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phlant, i ‘feddwl y gwaethaf posib’ a deall y ‘gallai ddigwydd yma’.”

Image
Nia Jeffreys
Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg 

Ymateb

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd ei fod wedi bod yn “achos ysgytwol sydd wedi achosi gymaint o niwed i fywydau plant”. 

“Rydym wedi ein ffieiddio gan y manylion sydd wedi eu hamlygu gan yr adolygwyr annibynnol ac rydym yn cymryd cyfrifoldeb am y camgymeriadau a'r cyfleodd a fethwyd gennym i atal Neil Foden,” meddai.

“Ar ran y Cyngor, rydw i'n ymddiheuro i bawb sydd wedi dioddef ac yn talu teyrnged i'w dewrder a'u cryfder. Mae'r dasg o adfer y sefyllfa yn lleol wedi dechrau.”

Ychwanegodd: "Byddwn yn mynd drwy'r adroddiad efo crib mân i adnabod y camau pellach sydd angen eu cymryd fel nad ydi camgymeriadau yn cael eu hail-adrodd. 

"Ni fyddwn yn cuddio o'n cyfrifoldeb i wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu plant - nawr ac i'r dyfodol."

‘Themâu cyson’

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, bod methiannau “dro ar ôl tro” i wrando ar blant.

Roedd hi wedi galw yn gyson ar Lywodraeth Cymru i gryfhau trefniadau diogelu cenedlaethol, meddai.

“Yn rhy aml, cafodd eu penderfynu fod trothwyon penodol heb eu cyrraedd i sbarduno camau gweithredu effeithiol mewn ymateb i gwynion neu bryderon,” meddai.

“Fy ngalwad i Lywodraeth Cymru yw sicrhau bod y gwersi o’r adolygiad hwn a rhai hanesyddol sydd wedi cyffwrdd â’r un materion yn cael eu hystyried wrth gwblhau diweddariadau i Weithdrefnau Diogelu Cymru.”

Dywedodd bod methiannau wrth rannu gwybodaeth rhwng asiantaethau, diffygion mewn cadw cofnodion, diffyg chwilfrydedd proffesiynol, hyfforddiant annigonol, ac ymatebion amlasiantaeth anghyson wedi bod yn “themâu ailadroddus” mewn adolygiadau ymarfer plant. 

“Dylai eu presenoldeb cyson godi cywilydd cenedlaethol, ac er mwyn osgoi ailadroddiadau pellach o’r methiannau hyn, dylai’r adroddiad hwn fod yn drobwynt gwirioneddol yn y ffordd y mae’r system amddiffyn plant yn gweithredu yng Nghymru.”

'Gwendidau'

Mae'r bwrdd yn argymhell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu’r cwricwlwm i sicrhau bod disgyblion yn meddu ar y wybodaeth i ddeall ymddygiad oedolion sy’n meithrin perthnasoedd amhriodol ac yn gwybod sut i roi gwybod am hyn yn ddiogel i oedolyn.

Dywedodd awduron yr adroddiad ei fod yn berthnasol i bob ysgol, bob Awdurdod Lleol a phob Asiantaeth Statudol sy’n gweithio gyda phlant yng Nghymru.

Roedd yr adroddiad “wedi amlygu’r gwendidau a’r risgiau cynhenid sy’n gysylltiedig â’r ffordd y mae ysgolion yng Nghymru yn cael eu llywodraethu,” medden nhw.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wrth ymateb i'r adroddiad bod ei "meddyliau gyda phawb a oedd wedi dioddef troseddau a gweithredoedd erchyll Neil Foden". 

"Rwy'n cydnabod yn llwyr y cryfder aruthrol a gymerodd i'r goroeswyr ddod ymlaen a chodi eu llais," meddai.

"Rydyn ni’n benderfynol o atal hyn rhag digwydd eto. Ac rydyn ni wedi derbyn yr holl argymhellion yn llawn, ac eisoes yn cymryd camau. Ochr yn ochr â'r gwaith o weithredu'n gyflym, mae Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn yn cynnal arolygiad ar y cyd o Gyngor Gwynedd, ac rydyn ni’n darparu pecyn o gymorth i Gyngor Gwynedd i'w helpu i fynd i'r afael â chanfyddiadau'r adolygiad.

"Rhaid i'r newid gael ei gyflawni'n ymarferol."

'Ymddiheuro'

Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru eu bod nhw’n “derbyn canlyniadau’r Adolygiad yn llawn”.

“Byddwn yn dwyn yr asiantaethau hynny y cyfeirir atynt yn yr Adolygiad i gyfrif a byddwn yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu'r Bwrdd Diogelu yn ddiweddarach eleni,” meddai’r datganiad.

“Mae'r Bwrdd wedi cadw cyswllt gyda’r dioddefwyr a'u teuluoedd drwy gydol y broses er mwyn sicrhau eu bod nhw’n ymwybodol o beth sy’n mynd ymlaen a'r camau nesaf. 

“Rydyn ni hefyd wedi ymddiheuro ar ran pob asiantaeth am y pethau rydyn ni’n cydnabod ddylai fod wedi cael eu gwneud yn wahanol gan y rhai sy’n gyfrifol am amddiffyn plant.”

‘Penderfyniad anodd’

Y gred oedd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi ond fe ddywedodd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru y byddai yna oedi llai na 24 awr cyn yr oedd disgwyl ei gyhoeddi.

Mewn datganiad ar y pryd, fe ddywedodd y bwrdd bod yr oedi wedi bod yn “benderfyniad anodd” ond wedi ei wneud er mwyn “ystyried ei rwymedigaethau cyfreithiol a rhannu gwybodaeth”.

Achos y pedoffeil Neil Foden: Amserlen o'r prif ddigwyddiadau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.