Achos y pedoffeil Neil Foden: Cam wrth gam

Newyddion S4C
Neil Foden (artist)

Cyn i adroddiad hir-ddisgwyliedig Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru ar droseddau Neil Foden gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth, mae Newyddion S4C wedi creu llinell amser o’n hymchwiliadau ers i'r pedoffeil a'r cyn-brifathro gael ei arestio, gan dynnu sylw hefyd at ddyddiadau allweddol, a beth yda ni’n ei wybod hyd yma.

CYNNYDD A CHWYMP - GYRFA FODEN

1979: Dechrau ei yrfa fel athro yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda.

1985: Foden yn cael ei ddewis fel swyddog undeb yng Ngwynedd.

1989: Penodi Foden yn ddirprwy Bennaeth, Ysgol Friars, Bangor.

1994: Penodi Foden yn Bennaeth Ysgol Isaf, Friars.

1 Ebrill 1997: Foden yn cael ei benodi yn bennaeth ar Ysgol Friars gyfan.

Image
Hen Ysgol Friars
Fe ddechreuodd Foden fel dirprwy bennaeth yn Ysgol Friars yn 1989

Medi 2014 - Tachwedd 2015: Penodi Foden yn Bennaeth Strategol, Ysgol y Gader, Dolgellau.

Hydref 2017 – Chwefror 2018: Foden yn cefnogi arweinyddiaeth Ysgol Uwchradd Treffynnon, Sir Y Fflint ar gais GwE (Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymrua a ddaeth i ben Mai 2025).

-Mae Newyddion S4C wedi cael cadarnhad ei fod wedi gweithio am gyfnodau i GwE fel Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant. Bu hefyd yn cefnogi Ysgol Uwchradd Y Fflint ac Ysgol Syr Richard Gwyn.

2017 – 2024:  Foden yn Uwch Swyddog Diogelu dynodedig Ysgol Friars yn ôl cofnodion Cyngor Gwynedd.

Mawrth 2017: Tablau Pisa yn cyhoeddi fod Ysgol Friars wedi'i henwi ymhlith y gorau yn y byd.

Medi 2018: Foden yn penodi ei hun yn bennaeth diogelu a bugeiliol Ysgol Friars.

Ionawr 2019: Penodi Foden yn Aelod Gweithredol o undeb athrawon NEU Cymru.

14 Mehefin 2021: Cysylltiad Foden ag Ysgol Dyffryn Nantlle yn dechrau. Cofnodion Llywodraethwyr yn dangos bod ‘cynllun ymyrraeth’ wedi’i dderbyn ar ôl gofyn am help gan Gyngor Gwynedd i redeg yr ysgol. 

-Mae Newyddion S4C wedi gweld cofnodion y cyfarfod sy’n nodi fod Pennaeth Addysg Gwynedd, Garem Jackson wedi esbonio fod swyddogion yr awdurdod wedi penderfynu bod "angen cryfhau arweinyddiaeth yr ysgol ar y lefel uchaf”, ac yn enwi Foden ar gyfer y gwaith. Eglurodd fod Cyngor Gwynedd  "wedi cytuno cymryd rôl fel rheolwr llinell” i Foden er mwyn arbed llwyth gwaith ychwanegol i’r cadeirydd.

21 Mehefin 2021: Foden yn bennaeth Strategol, Ysgol Dyffryn Nantlle. 

Newyddion S4C ar ddeall mai Foden oedd wedi gosod telerau ei hun na fyddai'n atebol i gorff llywodraethol yr ysgol.

Medi 2021: Mam o Fangor yn dweud bod Foden wedi ymosod ar ei mab 11 oed yn Ysgol Friars. 

-Wrth siarad â Newyddion S4C yn ddiweddar dywedodd ei bod wedi gweld tystiolaeth fideo, a ffilmiwyd gan staff, yn dangos Foden yn dal ei mab, oedd ag anghenion addysgol arbennig; i'r llawr yn ‘fygythiol’ gan benlinio ar ei ben.

11 Tachwedd 2021: Sgandal ‘cinio ysgol’ Ysgol Dyffryn Nantlle yn ffrwydro dros y cyfryngau. Roedd Foden wedi ysgrifennu at rieni yn dweud na fyddai cinio’n cael ei roi i’r plant os oedd ganddyn nhw fwy na cheiniog o ddyled.

Tachwedd 2021: Yn ôl ffynonellau, Cyngor Gwynedd yn cynghori y dylai Foden gael ei wahardd dros dro tra bo ymchwiliad yn parhau i’w driniaeth ddadleuol o atal (restrain) disgybl. 

-Newyddion S4C yn deall fod cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Friars wedi dewis peidio â gwahardd Foden, a’i gynghori i weithio o gartref am gyfnod.

Chwefror 2022: Fideo yn cael ei rannu ar-lein yn dangos Foden yn cydio mewn disgybl Ysgol Dyffryn Nantlle. Dywedodd Cyngor Gwynedd ar y pryd eu bod yn ymwybodol o’r fideo a bod yr ysgol yn delio â’r mater “yn unol â’u gweithdrefnau mewnol eu hunain a’r canllawiau cenedlaethol perthnasol.”

Image
ysgol dyffryn nantlle
Fe ddaeth Foden yn bennaeth Strategol ar Ysgol Dyffryn Nantlle ym mis Mehefin 2021

31 Awst 2022: Cyfnod Foden yn Ysgol Dyffryn Nantlle yn dod i ben.

6 Medi 2023: Arestio Foden.

22 Ebrill 2024: Llys y Goron yr Wyddgrug - yr achos yn erbyn Foden yn dechrau.

Ebrill 2024: Yn ystod yr achos llys, daeth i'r amlwg bod Foden wedi cael mynediad at ddeunydd ar y wê yn ymwneud â merched yn mynd i'r toiled rhwng 2010-2012, diddordeb rhywiol ddaeth i'r amlwg wrth iddo gam-drin merch yn ddiweddarach.

30 Ebrill 2024: Cyngor Gwynedd yn cadarnhau ymddeoliad Foden.

15 Mai 2024: Rheithgor yn cael Foden yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

1 Gorffennaf 2024: Dedfrydu Foden i 17 mlynedd dan glo.

CWYNION, BWLIO, AC ACHOSION LLYS

Awst 2015: Llywodraethwr Ysgol Friars yn cyflwyno cwyn gyda 21 o bryderon sy’n cynnwys achosion o fwlio gan Foden.

Mai 2016: Panel cwynion Cyngor Gwynedd yn cadarnhau mai dim ond 1 o'r 21 pryder sy’n cael ei dderbyn, gan ddatgan y gallai Foden efallai “fod wedi peryglu gweithrediad priodol y Corff Llywodraethol.”

2017: Cyngor Gwynedd yn colli dau dribiwnlys cyflogaeth yn dilyn honiadau a wnaed gan ddau gyn-athro Ysgol Friars. Foden yn cael ei feirniadu am fwlio a methu dilyn canllawiau.

18 Rhagfyr 2017: Ar ôl yr achosion yn y tribiwnlys, rhoddodd Llywodraethwyr Ysgol Friars bleidlais unfrydol o hyder i Foden a’r Uwch Dîm Rheoli. 

-Yn ôl cofnodion y mae Newyddion S4C wedi eu gweld, nododd y Cadeirydd na fyddai unrhyw gamau yn cael eu cymryd oherwydd arolygiad Estyn da ac asesiad cadarnhaol gan yr awdurdod lleol a GwE.

Image
Neil Foden

5 Gorff 2018: Tribiwnlys yn dyfarnu y dylai Llywodraethwyr Ysgol Friars neu Gyngor Gwynedd dalu £8,000 i athro (a oedd ynghlwm ag un o’r tribiwnlysoedd yn 2017). Nododd y barnwr fod Foden a rhai aelodau o'i uwch dîm wedi gweithredu yn erbyn yr athro mewn ffordd “pitw a dialgar.”

25 Awst 2018: Cymwysterau Cymru, sy’n monitro safonau arholiadau, yn cefnogi dau gŵyn am ffrae dros ganlyniadau arholiadau Ysgol Friars. Nododd y corff nad oedd honiadau o gamymddwyn yn yr ysgol wedi’u trin yn gywir.

Mawrth 2019: Cyngor Gwynedd yn comisiynu Pwyllgor Cwynion Annibynnol i edrych ar sefyllfa Ysgol Friars yn sgil colli dau dribiwnlys cyflogaeth.

Mai/Mehefin 2019: Adroddiad y Pwyllgor Cwynion Annibynnol yn cael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd. Dywedodd yr awduron fod Corff Llywodraethol Ysgol Friars yn “or-ddibynnol” ar farn y pennaeth neu uwch staff. Un o’r nifer o argymhellion oedd penodi “cyfaill beirniadol” i helpu'r Llywodraethwyr a’r Pennaeth.

Medi - Hydref 2020: Cafwyd Foden yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Clywodd panel y CGA honiadau ei fod o wedi bwlio tri aelod o staff rhwng Ebrill 2014 a Hydref 2016. 

Mawrth 2021: Foden yn cael ei ddiarddel o undeb yr NEU.

19 Mawrth 2021: Mewn llythyr y mae Newyddion S4C wedi ei weld, Cyngor Gwynedd yn cadarnhau fod 'cyfaill beirniadol annibynnol’ wedi ei benodi i helpu Ysgol Friars, ac er fod “cynnydd priodol” doedd y gwaith ddim ar ben.

26 Ebrill 2021: Cofnodion Fforwm Cyllideb Ysgolion Gwynedd yn nodi bod Foden wedi rhoi’r gorau i’w rôl fel cynrychiolydd yr NEU. Ni soniwyd fod Foden wedi cael ei ddiarddel gan yr undeb. Cytunodd yr aelodau i anfon nodyn o ddiolch “am ei wasanaeth a’i gyfraniad”.

Image
mold
Cafodd Foden ei ddedfrydu i 18 mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

GRWMIO A PHRYDERON DIOGELU 

2017 - Medi 2023:  'Jo,’ un o oresgynwyr Foden (a siaradodd gyntaf ar raglen ddogfen BBC Wales Investigates, Hydref 2024), yn dweud bod Foden wedi meithrin perthynas amhriodol â hi o 2017 tan fis Medi 2023. Rhannodd gannoedd o e-byst a negeseuon WhatsApp personol yr oedd Foden wedi eu hanfon.

2019 – 2022: Foden yn grwmio Plentyn E (fel y cyfeiriwyd ati yn achos llys 2024)

12 Ebrill 2019:  Dim ymchwiliad gan Gyngor Gwynedd ar ôl i Uwch aelod o staff Ysgol Friars godi pryder am agosatrwydd Foden â rhai merched ifanc. 

-Newyddion S4C yn deall bod pedwar aelod o staff Gwynedd yn rhan o’r penderfyniad.

Haf/Hydref 2019: Ail bryder diogelu yn cael ei godi am Foden gan weithiwr allweddol Cyngor Sir Ynys Môn. Hyn yn cael ei gyhoeddi ar ôl ymchwiliad gan Newyddion S4C wnaeth ddarganfod ei bod hi’n deybyg fod y pryder wedi ei rannu â Chyngor Gwynedd ond na chafwyd ymchwiliad ffurfiol.

5 Chwefror 2020: Foden yn annerch Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Senedd.
Drwy groesgyferio cofnodion llys a'r Senedd, Newyddion S4C yn darganfod fod Foden wedi treulio'r noson gynt yn cam-drin Plentyn E mewn ystafell gwesty. 

2023: Foden yn grwmio a chamdrin Plentyn A (fel y cyfeiriwyd ati yn achos llys)

Mawrth 2023: Tri athro yn trafod agosrwydd Foden at Blentyn A. Awgrymodd un y dylid codi’r pryder gyda Chyngor Gwynedd, ond dywedodd athro arall na fyddai hynny’n briodol oherwydd diffyg ymchwiliad blaenorol. Anfonwyd e-bost at Foden gan y tri yn dweud ei fod o'n “annoeth.”

Mehefin 2023: Gweithiwr cymdeithasol Plentyn B yn ymweld ag Ysgol Friars ar gyfer cyfarfod a drefnwyd oherwydd pryderon fod y plentyn yn ymweld â swyddfa Foden yn ormodol.

CYNGOR GWYNEDD, CYNGHORWYR AC YMCHWILIADAU NEWYDDION S4C 

Mehefin 2023: Arolygiad Estyn yn canmol Gwasanaethau Addysg Cyngor Gwynedd. Y corff arolygu addysg a dysgu Cymru yn disgrifio trefniadau diogelu yn “gadarn” a bod arweinwyr yr adran yn deall eu cyfrifoldebau statudol.

8 Hydref 2024: BBC Wales Investigates yn darlledu rhaglen ddogfen "My Headteacher the Paedophile," gan ddatgelu y gallai Foden fod wedi bod yn camdrin plant ers 1979.

10 Hydref 2024: Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, yn gwrthod ymddiheuro i ddioddefwyr Foden. 

-Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd yr aelod Plaid Cymru nad oedd am weld ymchwiliad cyhoeddus na chwaith ymchwiliadau i brosesau mewnol y cyngor, gan nodi ei fod yn hyderus y byddai’r holl dystiolaeth yn cael ei chyflwyno i’r tîm CPR: “Mae gen i staff ardderchog oddi fewn i’r cyngor yma.” meddai, "dwi’n gresynu fod yna unrhyw amheuaeth ar eu proffesiynoldeb nhw.”

Image
Cyngor Gwynedd

11 Hydref 2024: Dyfrig Siencyn, yn cyhoeddi datganiad yn ymddiheuro "yn ddiffuant" i holl ddioddefwyr Foden ac ei fod bellach yn cefnogi yr alwad am ymchwiliad cyhoeddus. 

Pedwar cynghorydd Plaid Cymru, Beca Brown, Berwyn Parry Jones, Dafydd Meurig ac Elin Walker yn camu i lawr o gabinet Cyngor Gwynedd oherwydd sylwadau gwreiddiol Dyfrig Siencyn.

17 Hydref 2024: Arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfrig Siencyn yn ymddiswyddo.

14 Tachwedd 2024: Newyddion S4C yn datgelu fod Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio i ddau achos newydd o gamdrin yn ymwneud â’r cyn-bennaeth a fod  Cyngor Gwynedd yn cael trafferth penodi pennaeth newydd i Ysgol Friars. 

27 Tachwedd 2024:  Newyddion S4C yn adrodd fod dau aelod o staff wedi eu gwahardd o Ysgol Friars.

Rhagfyr 2024: Swyddog Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) yn dweud wrth Newyddion S4C fod data yn dangos bod Foden wedi cael “rhyddid" i recriwtio tua 80 o weithwyr heb naill ai gyfweld, hysbysebu nac ymgynghori â llywodraethwyr.

Ionawr 2025: Cyngor Gwynedd yn bwriadu cynnig ymddiheuriad personol i ddioddefwyr Foden.

22 Ion 2025: Arweinydd newydd Cyngor Gwynedd, Nia Jeffreys, yn cadarnhau wrth Newyddion S4C na chynhaliwyd unrhyw ymchwiliadau mewnol i brosesau’r cyngor mewn cysylltiad â Foden tan ar ôl Hydref 2024.

Mawrth 2025: Penodi Sally Holland i gadeirio'r bwrdd sy'n goruchwylio ymateb Cyngor Gwynedd i droseddau Foden.

Ebrill 2025: Cyngor Gwynedd yn cadarnhau wrth Newyddion S4C na fydd adroddiad annibynnol gan fargyfreithiwr o Lundain, a oedd yn edrych ar sut wnaeth yr awdurdod drin pryderon am Foden yn 2019, yn cael ei gyhoeddi oherwydd ei gynnwys “sensitif.”

Mai 2025: Newyddion S4C yn datgelu fod dau o benaethiaid Adran Blant Cyngor Gwynedd 'i ffwrdd o'u gwaith’ ond chafwyd ddim esboniad. 

Gorffennaf 2025: Cyngor Gwynedd yn cydnabod y byddai angen mwy o staff ac adnoddau i ymateb i argymhellion adroddiad y CPR. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.