Ffotograffydd o Gaernarfon yn darlitho am chwarelwyr Cymru yn America
"Dwi'n teimlo bod o'n ddyletswydd i ni fel pobl ifanc i gofnodi pethau hanesyddol."
Dyma eiriau ffotograffydd o Gaernarfon sydd yn darlitho am hanes Cymru mewn prifysgol yn yr Unol Daleithiau y mis yma.
Fe gafodd Carwyn Rhys Jones wahoddiad i ymweld â Phrifysgol Rio Grande yn nhalaith Ohio yn dilyn llwyddiant ei arddangosfa 'Chwarelwyr'.
Mae'r arddangosfa yn cynnwys pum portread o chwarelwyr a oedd yn gweithio mewn chwareli yng ngogledd Cymru.
Mae pob portread yn cynnwys llun o'r chwarelwr wedi'i osod ar ben delweddau o'r dirwedd lle'r oedd yn arfer gweithio.
"Nes i ddechrau'r prosiect 'Chwarelwyr' achos o’n i’n teimlo bod y genhedlaeth yna’n mynd yn hŷn," meddai wrth Newyddion S4C.
"O’n i’n meddwl bod o’n rili pwysig i ddogfennu’r chwarelwyr, ac o’r pump o chwarlewyr oedd yn rhan o’r prosiect, mae tri wedi marw erbyn hyn."
Fe wnaeth Mr Jones lansio 'Chwarelwyr' yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn 2023.
Ers hynny, mae'r arddangosfa wedi teithio o amgylch Cymru ac yna ar draws Cefnfor Iwerydd i'r Unol Daleithiau.
Fe aeth y gwaith i ddinasoedd Efrog Newydd a Vermont yng ngogledd-ddwyrain y wlad i ddechrau.
Yna, dros yr haf, fe wnaeth y prosiect deithio i Dde America, gan ymweld â saith lleoliad yn yr Ariannin.
Mae'r ffotograffydd, sy'n gweithio i Antur Waunfawr, bellach wedi cael gwahoddiad i ddarlitho ym Mhrifysgol Rio Grande.
Mae'r cyfle yn rhan o bartneriaeth gyda Chanolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig yn y brifysgol yn Ohio.
Bwriad y ganolfan ydi meithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o dreftadaeth a diwylliant Cymreig.
Mae gan nifer o drefi yn y rhanbarth olion o ddylanwad Cymreig, drwy enwau lleoedd, pensaernïaeth ac iaith.
"Dwi'n teimlo'n falch iawn bod o 'di dechra’n rwla mor fach â Llanberis ac erbyn hyn yn teithio’r byd," meddai Mr Jones.
"Ma' hynna'n reit cŵl a dwi'n gobeithio ceith o fynd i lefydd eraill hefyd."
Bydd y gwaith yn cael ei arddangos yng Ngŵyl Cymru Gogledd America yn 2027.
