Ditectifs eisiau siarad gyda pobl ar ddelweddau CCTV wedi marwolaeth menyw
Mae ditectifs sydd yn ymchwilio i farwolaeth menyw 45 oed a gafodd ei darganfod yn farw ym Mhrestatyn yn awyddus i siarad gydag unigolion sydd mewn lluniau CCTV.
Cafodd corff Angela Shellis ei darganfod ddydd Gwener Hydref 24 yn ardal Morfa.
Mae dyn 18 oed, Tristan Thomas Roberts wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.
Mae'r heddlu eisiau adnabod pobl oedd yn ardal Morfa ym Mhrestatyn rhwng 03.30 a 5.40 y bore ar y bore dydd Gwener, Hydref 24. Yn ôl y llu fe allen nhw fod yn "lygad dystion hanfodol".
"Mae'n amlwg bod yr ardal yma yn boblogaidd gyda phobl sydd yn cerdded eu cŵn a'r rhai sydd yn gwneud ymarfer corff ac mae'n angenrheidiol i ni fedru adnabod yr holl unigolion oedd yn yr ardal," meddai'r Prif Arolygydd Dditectif, Andy Gibson.
"Fe fydden ni yn hoffi diolch i'r rhai hynny sydd wedi cysylltu gyda ni yn barod. Os ydych chi yn adnabod neu os mai chi yw'r bobl yn y lluniau plîs cysylltwch gyda 101 a rhoi'r cyfeirnod C165084.
"Efallai eich bod yn teimlo nad oes gennych chi unrhywbeth o werth i ychwanegu at yr ymchwiliad ond mae'n hanfodol ein bod yn medru adnabod y bobl sydd ar y camerâu CCTV gerllaw."
Ychwanegodd bod y lluniau o ansawdd isel allai wneud hi yn anodd adnabod rhywun ond bod hi'n bwysig cysylltu gyda'r heddlu os yn adnabod rhywun.
Dywedodd hefyd nad yw'r llu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad gyda'r ymchwiliad ac mai "apêl am lygad dystion yn unig" yw hyn.
