'Colled aruthrol': Teyrngedau i athro a thiwtor Cymraeg 'tu hwnt o weithgar' o Gaerdydd

Gwilym Roberts yn derbyn Tlws Coffa Aled Roberts yn 2024

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i athro a thiwtor Cymraeg "tu hwnt o weithgar" o Gaerdydd a fu farw yn 90 oed.

Wedi ei eni a’i fagu yn y brifddinas, roedd Gwilym Roberts wedi treulio 31 o flynyddoedd fel athro Cymraeg.

Yn dilyn ei gyfnod yn dysgu yng Nghymru fe aeth ymlaen i ddysgu Cymraeg ar sail wirfoddol ym Mhatagonia.

Dros y blynyddoedd roedd wedi rhoi gwersi Cymraeg i bobl ifanc chweched dosbarth Caerdydd ac yn diwtor ar gyrsiau penwythnos Cymdeithas yr Iaith.

Roedd Mr Roberts yn arweinydd Aelwyd yr Urdd Caerdydd rhwng 1959 a 1971, ac Adran Bentre’r Urdd yn Rhiwbeina am 15 mlynedd. 

Ym mis Medi, cafodd digwyddiad arbennig ei gynnal yn Rhiwbeina wrth i blac gael ei ddadorchuddio i ddathlu ei gyfraniad i addysg Gymraeg yr ardal. 
 
Daeth hynny flwyddyn ar ôl iddo ennill Tlws Coffa Aled Roberts am ei gyfraniad gwirfoddol nodedig i’r sector dysgu Cymraeg.
 
'Person anhygoel'
 
Dywedodd Anne Uruska, a oedd wedi ei enwebu ar gyfer Tlws Coffa Aled Roberts, fod Mr Roberts yn berson "anhygoel".
 
"Anhygoel, bendigedig, tu hwnt o weithgar - oedd e'n wych, yn berson arbennig dros ben," meddai wrth Newyddion S4C.
 
"O'n i'n nabod o ers pan o'n i yn y chweched dosbarth, y fe oedd un o'r bobl oedd yn bennaf gyfrifol am aelwyd yr Urdd yng Nghaerdydd.
 
"Roedd yr oedolion oedd yn gweithio yno i gyd yn gwneud y gwaith yn wirfoddol, yn llawen, yn gefn i bawb.
 
"A dim yn unig i'r Cymry Cymraeg oedd yn mynd yno, ond i'r dysgwyr oherwydd oedden nhw wedi penderfynu y bydde fe'n beth braf i'r myfyrwyr chweched dosbarth oedd yn dysgu Cymraeg fel ail iaith i gael dod i'r aelwyd gyda'r Cymry Cymraeg."

 

Image
Gwilym Roberts yn siarad yn y digwyddiad ddydd Sadwrn
Anrhydeddu 'un o hoelion wyth yr iaith' wrth i Gylch Meithrin Rhiwbeina ddathlu'r 60

Fe aeth ymlaen i sôn am eu hamser gyda'i gilydd yng Nghymdeithas yr Iaith.

"Byddai Gwilym yn dod efo gwirfoddolwyr eraill, tîm o hyfforddwyr i ddysgu'r oedolion oedd yn dod i'r gwersyll am benwythnos o ddysgu Cymraeg a mwynhau adloniant Cymraeg," meddai.

"Oedd e wastad yn barod i roi ei holl egni ac yn mor angerddol dros y Gymraeg ac yn hynod o ffeind hefyd.

"Doedd e ddim yn achos o'r iaith a dim ots am y bobl, roedd yn achos o'r iaith a'r bobl gyda'i gilydd ac oedd e wir yn helpu pobl."

Ychwanegodd: "Roedd e'n berson tu hwnt o weithgar, mor ffeind - alla i ddim ei ganmol ddigon.

"Mae'n golled aruthrol bod o wedi mynd, ond mae wedi gadael etifeddiaeth Gymraeg ar ei ôl.

"Ac nid yn unig yn y brifddinas lle'r oedd yn byw, ond trwy Gymru i gyd."

'Cyfraniad arbennig'

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Urdd Gobaith Cymru ei fod wedi gwneud "cyfraniad arbennig" i'r mudiad a'r Gymraeg.

"Gyda thristwch mae’r Urdd yn rhoi teyrnged i gymwynaswr a chawr o ddyn, Gwilym Roberts, am ei gyfraniad arbennig i’r mudiad a'r Gymraeg," meddai.

"Roedd yn arweinydd Aelwyd yr Urdd Caerdydd rhwng 1959 a 1971, ac Adran Bentre’r Urdd yn Rhiwbeina am bymtheng mlynedd. 

"Daeth yr Aelwyd a’r Adran â churiad calon newydd i fywyd Cymraeg ifanc Caerdydd ac yn ffocws i bob mudiad Cymraeg arall yn y brifddinas.

"Yn un o Lywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019, rydym yn ddyledus i Gwilym am ei amser a’i gefnogaeth dros y degawdau. 

"Diolchwn iddo am ei ymroddiad a’i waith diflino gyda phlant a phobl ifanc Cymru, ac am gefnogi cenedlaethau o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.