Y gwasanaeth tân yn datgan 'digwyddiad argyfwng' yn Sir Gâr
Y gwasanaeth tân yn datgan 'digwyddiad argyfwng' yn Sir Gâr
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi datgan "digwyddiad argyfwng" mewn tref yn Sir Gâr yn dilyn llifogydd difrifol yno dros nos.
Dywedodd y gwasanaeth fore dydd Mercher fod glaw trwm wedi arwain at 24 awr "hynod heriol" i'w criwiau, gyda digwyddiad argyfwng yn cael ei ddatgan am 02.10 yn Hendy-gwyn ar Daf ar ôl i floc o fflatiau ymddeol gael eu taro gan lifogydd.
Roedd yna bobl oedrannus ymysg y rheini oedd wedi eu symud i Neuadd Hendy-gwyn ar Daf a hynny yn oriau mân y bore.
Roedd yn rhaid i'r gwasanaethau brys gasglu pobl o'u tai yn Sanclêr nos Fawrth hefyd.
Mae canolfan orffwys wedi ei hagor yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin.
Roedd dros 450 o alwadau 999 o fewn cyfnod o 12 awr yn ymwneud ag adroddiadau am lifogydd, meddai'r awdurdodau.
Dywedodd y gwasanaeth bod nifer o'r galwadau gan bobl a oedd wedi'u dal yn eu cartrefi a'u cerbydau.
Mae Craig Flannery, prif swyddog tân cynorthwyol y gwasanaeth, yn rhybuddio y bydd y gwaith adfer yn "heriol a hir".
"Rwyf wedi gweld yn bersonol ymroddiad a phroffesiynoldeb ein staff wrth ddelio â nifer o alwadau dros gyfnod hir o amser, yn ogystal ag ymdrechion dewr ein criwiau gweithredol yn ymateb i'r digwyddiadau hyn ar draws ein hardal gwasanaeth," meddai.
"Dros nos, mae swyddogion wedi cael eu galw'n ôl i ddyletswydd i gynorthwyo gyda gwydnwch, gyda swyddogion wedi'u symud i'r Ganolfan Rheoli Tân ar y Cyd i gynorthwyo gyda thriagio galwadau.
"Mae ein criwiau wedi bod yn wirioneddol eithriadol wrth gynorthwyo ac amddiffyn ein cymunedau."
Ychwanegodd: "Rydym yn parhau i weithio gyda Fforwm Gwydnwch Lleol Dyfed Powys a phartneriaid eraill i gefnogi digwyddiadau parhaus a chydweithio ar yr hyn sy'n debygol o fod yn ymdrech adfer heriol a hir."
'Anodd'
Roedd 16 o rybuddion llifogydd yn parhau mewn grym yn ne-orllewin Cymru fore Mercher.
Mae ysgolion Bro Myrddin, Y Frenhines Elisabeth, a Thre Ioan yng Nghaerfyrddin, Ysgol Bro Dinefwr ger Llandeilo, ysgolion Lacharn a Llanmilo ar arfordir deheuol Sir Gaerfyrddin, ac Ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn ar Daf ar gau ddydd Mercher oherwydd y llifogydd.
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Darren Price wrth Radio Cymru ei bod hi wedi bod "yn noson digon anodd yma yn Sir Gearfyrddin".
"Mae'r gwasanaethau brys wedi bod allan yn symud trigolion mewn rhai esiamplau, fel Hendy-gwyn yn benodol," meddai.
"Mae ochr gorllewinol y sir wedi cael hi'n wael iawn.
"Mae'r effaith yn Hendy-gwyn yn dra wahanol - rydan ni'n son fan 'na am orfod symud pobl o'u cartrefi wrth gwrs a'u cefnogi nhw nawr dros yr oriau nesaf."
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Ceredigion bod disgwyl llifogydd mewn eiddo ger Afon Teifi yng Nghenarth gan gynnwys y Melinau Llifio yn Abercych, eiddo ger Afon Teifi yn Llechryd gan gynnwys ffordd yr A484 a Phont Llechryd, ac eiddo ger Afon Teifi yng Nghastellnewydd Emlyn gan gynnwys y cae rygbi.
