Newyddion S4C

Angen 'gwthio newid' yng nghamp pêl-droed merched yng Nghymru

24/11/2021
x

Mae seren bêl-droed Cymru a phrif gynghrair America [NWSL] Jess Fishlock, wedi dweud bod "angen gwneud mwy i wthio newid" gyda'r gamp i fenywod yng Nghymru.

Mewn sgwrs arbennig gyda chyn-gapten Cymru Laura McAllister mewn rhaglen ddogfen ar S4C, mae'r chwaraewr pêl-droed proffesiynol o Gaerdydd wedi rhannu ei phryderon am ba mor gyfartal yw'r gêm.

Mae Jess Fishlock wedi ennill 127 o gapiau dros Gymru, mwy nag unrhyw un arall i wisgo’r crys coch.

Mae Fishlock yn cael ei thalu i chwarae i dîm Reign yn America ac wedi ennill gwobr y chwaraewr mwyaf gwerthfawr (MVP) ym mhrif gynghrair pêl-droed America, yr NWSL.

Ond, dywedodd Fishlock ei bod yn cael ei hatgoffa bod "angen [iddi] wneud mwy" pan mae'n dychwelyd adref.

'Gwneud gwmws yr un peth dros ein gwlad'

Dywedodd Jess Fishlock: "Dwi’n chwaraewr proffesiynol yn America, ond weithiau pan fi’n dod gartref fi’n gweld rhai o’r merched dal yn gweithio cyn dod i camp [Cymru], neu weithiau ddim yn gallu prynu boots, a mae’n gwneud i mi sylweddoli fy mod i dal angen i wthio mwy a creu newid.

"Mae tâl cyfartal yn sgwrs ddifyr. Wna’i ddim mynd i mewn i ffigyrau oherwydd mae gen i lot o barch tuag at Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

"Os ydyn ni’n mynd i gystadleuaeth fawr ac mae’r dynion yn mynd i gystadleuaeth fawr, dydw i ddim o’r farn y dylwn ni gael arian o’r pot maen nhw’n cael gan UEFA neu FIFA, a dwi ddim yn credu fod hynny’n unrhyw beth i’w wneud gyda’r Gymdeithas.

Ychwanegodd: "Efallai byddai UEFA yn rhoi £10 miliwn mewn arian gwobr i’r menywod, ond i’r dynion y byddan nhw rhoi £250 miliwn, felly dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n haeddu’r arian yna. Ond os wyt ti’n cymryd mas yr arian gwobr ac UEFA a’r gystadleuaeth mawr, a phan ti ddim ond yn sôn am Gymdeithas Bêl-droed Cymru a Chymru a’r dynion a’r merched – rydyn ni’n gwneud gwmws yr un peth dros ein gwlad. Mi fydda unrhyw wahaniaeth yn y tâl yna yn annerbyniol."

Image
x
Dywedodd Jess Fishlock ei bod yn cael ei hatgoffa i "wthio mwy a chreu newid" i'r gamp i fenywod yng Nghymru pan mae'n dychwelyd adref.

Yn y rhaglen Laura McAllister: Gêm Gyfartal, bydd Laura yn siarad gyda rhai o arwyr gorffennol, presennol a dyfodol y crys coch, i holi’r cwestiwn – a yw pêl-droed yn gêm gyfartal yma yng Nghymru?

Mae’r gamp wedi symud ymlaen dipyn ers i Laura a’i chyd-chwaraewyr bledio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn y 1990au i gymryd cyfrifoldeb am redeg tîm merched cenedlaethol.

Fis diwethaf, torrodd gêm y merched record yn erbyn Estonia gan ddenu torf o 5,455 i Stadiwm Dinas Caerdydd, y dorf fwyaf mae’r tîm erioed wedi cael yn eu gwylio.

Dyw Cymru heb golli'r un gêm yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2023, gyda dwy gêm yn erbyn Groeg a Ffrainc ar y gweill fis yma.

'Angen cadw'r talent yma'

Dywedodd Angharad James, aelod blaenllaw arall o dîm presennol Cymru ac sy'n chwarae yn safle canol cae dros North Carolina Courage, bod angen "gwneud yn siwr" ein bod yn "cadw'r talent" yng Nghymru.

Dywedodd Angharad James wrth siarad â Laura McAllister: "Mae’r gêm wedi symud yng Nghymru shwt gymaint, ond mae dal gymaint mae’n rhaid i ni wneud i wneud yn siŵr fod y merched sydd yn dod trwyddo yn dod trwyddo drwy chwarae pêl-droed yng Nghymru achos ni moyn cadw’r talent yma os ydan ni’n gallu.

"Mae gymaint o fenywod sydd yn chwarae pêl-droed ar y funud dal gydag ail job; mae’n rhaid i hwnna newid achos sut wyt ti’n fod i gael y gorau allan o chwaraewyr pan maen nhw’n gorfod gweithio tan 22:00, ac wedyn ymarfer am 8:00?

"Beth sy’n rhaid digwydd nawr yn y gêm menywod yw bod pawb yn broffesiynol ac nid just mewn teitl, ond popeth sy’n dod gyda fe, fatha’r dynion."

Laura McAllister: Gêm Gyfartal am 9.00yh ar S4C ar nos Fercher 24 Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.