Newyddion S4C

'Dwsin' o ASau Ceidwadol wedi cyflwyno llythyr o ddiffyg hyder yn Boris Johnson

The Sun 24/11/2021
Boris Johnson - Chatham House Flickr

Mae Ceidwadwyr blaenllaw wedi rhybuddio bod dwsin o ASau wedi anfon llythyron yn galw am newid i arweinyddiaeth y blaid.

Mae'r llythyron yn agor y drws i'r posibilrwydd o her i arweinyddiaeth Boris Johnson pe bai digon o lythyron yn cael eu hanfon.

Bydd angen i 15% o ASau Ceidwadol ysgrifennu at gadeirydd Pwyllgor 1922 Syr Graham Brady er mwyn cynnal pleidlais o ddiffyg hyder.

Ar hyn o bryd, mae hynny'n golygu y byddai angen 54 AS i anfon llythyr yn galw am bleidlais, yn ôl The Sun.

Daw'r honiad yn dilyn wythnosau anodd i'r Prif Weinidog oedd yn cynnwys ffrae am ail swyddi Aelodau Seneddol ac araith am Peppa Pig i arweinwyr busnes.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Chatham House (drwy Flickr)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.