Murlun o eiriau'r Manic Street Preachers yn ymddangos yng nghanol Caerdydd

Murlun Manic Street Preachers

Mae murlun newydd gyda geiriau o un o ganeuon y Manic Street Preachers wedi ymddangos ar ochr adeilad yng nghanol Caerdydd.

Cafodd y gwaith celf gan yr artist Sean Edwards ei ddadorchuddio ar Stryd Womanby, un o’r ardaloedd mwyaf bywiog ar gyfer cerddoriaeth fyw yn y brifddinas.

Mae’r geiriau “I prefer the mirror to the screen, helps me understand the way I feel” yn dod o’r gân Deleted Scenes a ymddangosodd yn albwm ddiweddaraf y Manics, Critical Thinking.

Mae'r Manic Street Preachers yn fand roc o'r Coed Duon, Caerffili, a ffurfiwyd yn 1986. 

Maen nhw wedi dod yn un o fandiau mwyaf llwyddiannus Cymru, gan ennill Brit Awards, cyhoeddi sawl albwm sydd wedi cyrraedd brig siartiau'r DU a gwerthu miliynau o recordiau ledled y byd.

Dywedodd Cyngor Caerdydd mai’r gwaith awyr agored, sydd wedi ei osod gyferbyn â’r murlun o’r gantores Gwenno ar ochr Clwb Ifor Bach, fydd y “cyntaf mewn cyfres o osodiadau sy'n seiliedig ar eiriau sy'n dathlu cerddoriaeth a chreadigrwydd Cymru.”

Bydd y gweddill yn “ymddangos yn raddol ledled y ddinas,” meddai’r cyngor, fel rhan o fenter Dinas Gerdd Caerdydd.

Dywedodd awdur y gwaith celf, Sean Edwards, sydd wedi cynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol yn Biennale Fenis a thu hwnt, bod cael y cyfle i blethu geiriau Nicky Wire o’r Manics gyda’i waith ei hyn yn “gwireddu breuddwyd.”

“Mae'n golygu llawer i gael gwahoddiad i weithio gyda’r geiriau hyn gan y Manic Street Preachers mewn gofod mor amlwg ar gyfer cerddoriaeth ar lawr gwlad yn fy nhref enedigol, ac fel rhan o ŵyl sy'n dathlu'r sîn honno,” meddai’r artist, gafodd ei fagu yn ardal Llanedern yn y brifddinas.

"Rwy'n gobeithio y bydd yn creu cysylltiad gyda llawer o bobl. Mae'r dyluniad yn gosod y gwaith fel hen arwydd - fel petai bob amser wedi bod yn bresennol, yn siarad â ni am ein dyfodol tra'n ymddangos fel pe bai’n siarad o'r gorffennol, gan adleisio galwad y geiriau i ni edrych ar ein hunain."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.