Newyddion S4C

Rhian Wilkinson: 'Fydd y gwrthdrawiad bws ddim wedi effeithio ar baratoadau'r tîm'

Rhian Wilkinson

Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed menywod Cymru, Rhian Wilkinson, wedi dweud na fydd eu paratoadau ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc yn Euro 2025 wedi cael eu heffeithio ar ôl i'w bws fod mewn gwrthdrawiad yn y Swistir.

Roedd y tîm yn cael eu cludo i sesiwn hyfforddi mewn stadiwm yn St Gallen ddydd Mawrth cyn eu gêm yn erbyn Ffrainc nos Fercher. 

Fe wnaeth y Gymdeithas Bêl-droed gadarnhau na chafodd unrhyw un ar y bws ei anafu.

Wrth siarad gyda'r wasg yn hwyr nos Fawrth, dywedodd Wilkinson na fydd y ddamwain yn "newid dim byd".

"Dwi wedi bod mewn twrnamaint lle'r oedd 'na lifogydd, mae'r pethau 'ma'n digwydd," meddai wrth BBC Sport.

"Gobeithio ddim damweiniau, ond mae rhywbeth wastad yn digwydd.

"Pan oedden ni ym Mhortiwgal ac roedd gennym ni gêm o fewn y tîm, nes i neud i un o'r bysiau fynd ar goll er mwyn iddyn nhw brofi dipyn bach o'r anhysbys.

"Mae'r gêm yn rhywbeth roedden ni wedi paratoi ar ei gyfer yn barod."

Cafodd sesiwn hyfforddi Cymru yn St Gallen ei chanslo o achos y gwrthdrawiad.

Ond fe lwyddodd y tîm i hyfforddi yn ddiweddarach yn y dydd yn eu canolfan yn Weinfelden.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.