Newyddion S4C

Dyfodol ansicr i wasanaeth newyddion Golwg360 ar ôl colli nawdd

23/11/2021
Golwg360

Mae gwasanaeth newyddion digidol Golwg360 yn wynebu dyfodol ansicr yn dilyn colli nawdd gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Roedd Golwg360 yn derbyn nawdd o £200,000 y flwyddyn gan y Cyngor ers 2009 ond mae Newyddion S4C yn deall y bydd yr arian yn cael ei haneru i £100,000 y flwyddyn yn y dyfodol.

Dywedodd Cyngor Llyfrau Cymru na fydd tendr presennol gwasanaeth newyddion Golwg360 yn cael ei effeithio.

Mae’r gwaith sydd gan Golwg360 o ddarparu gwasanaeth newyddion digidol gyda grant y Cyngor wedi mynd allan i dendr yn gynharach eleni.

Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Llyfrau Cymru: “Gallwn gadarnhau fod y tendr newydd ar gyfer darparu'r Gwasanaeth Newyddion Digidol Cymraeg ar gyfer y cyfnod Ebrill 2022-Mawrth 2026 wedi ei hysbysebu dros yr haf a bod cyfweliadau gyda phanel annibynnol wedi eu cynnal ym mis Hydref.

“Dyw'r broses ddim wedi ei chwblhau ac fe fyddai'n amhriodol gwneud sylw ar drafodaethau sy'n parhau. Fodd bynnag, gallwn gadarnhau nad oes newid wedi bod i grant cyfredol cylchgrawn Golwg na'r grant ar gyfer tendr presennol y Gwasanaeth Newyddion (Golwg 360).

“Bydd y tendr newydd ar gyfer y gwasanaeth newyddion yn dechrau ar 1 Ebrill 2022 a bydd datganiad yn cael ei wneud mewn da bryd ar gyfer hynny."

'Newyddiaduraeth annibynnol'

Dywedodd llefarydd ar ran Golwg wrth Newyddion S4C: “Mae Golwg yn falch o'n hanes profedig o greu newyddiaduraeth annibynnol trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ystod cyfnod o bandemig, lansiwyd Golwg360 ar ei newydd wedd a lansiwyd Golwg+ - sef cylchgrawn Golwg ar y we am y tro cyntaf.

“Gyda'n tîm talentog a gweithgar, rydym yn edrych ymlaen i barhau i arloesi yn y maes, a pharhau i wasanaethu ein darllenwyr ffyddlon.”

Yn ôl canllawiau tendr y Cyngor Llyfrau am y gwaith, amcan y cynllun yw i “sicrhau gwasanaeth newyddion digidol cyson a gwreiddiol trwy gyfrwng y Gymraeg:

"Bydd cyllideb o £200,000 y flwyddyn ar gael ar gyfer y cyfnod Ebrill 2022 i Fawrth 2026. Mae’r arian hwn yn rhan o’r Grant Cyhoeddi a ddaw gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ddibynnol ar barhad y cyllid hwnnw.

“Bydd y gwasanaeth yn gwneud cyfraniad sylweddol i blwraliaeth a phroffesiynoldeb newyddiaduraeth Gymraeg ac i amrywiaeth cynnwys a chyfrwng y deunydd darllen sydd ar gael yn yr iaith, gyda’r nod o gynyddu nifer y bobl, ac yn enwedig pobl ifainc, sy’n darllen y wasg Gymraeg.

“Dylid cynllunio yn y lle cyntaf ar gyfer gwasanaeth sy’n anelu at gyfartaledd o 5,000 o ymweliadau dyddiol â’r wefan.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.