Seland Newydd i groesawu teithwyr rhyngwladol eto o'r flwyddyn nesaf
Bydd teithwyr sydd wedi eu brechu'n llawn rhag y coronafeirws yn gallu teithio i Seland Newydd o 30 Ebrill 2022.
Fe fydd hyn yn dod â diwedd i gyfyngiadau teithio llym sydd wedi bod yn eu lle ers mis Mawrth 2020, yn ôl Sky News.
Bydd preswylwyr Seland Newydd a deiliaid fisa yn Awstralia yn gallu cyrraedd y wlad o 16 Ionawr, gyda phreswylwyr Seland Newydd sy'n byw yn y rhan fwyaf o wledydd eraill yn cael teithio yno o 13 Chwefror.
Ni fydd angen i deithwyr hunan-ynysu mewn gwestai cwarantin bellach, ond fe fydd angen canlyniad prawf negyddol cyn teithio, tystiolaeth o'r brechlyn a phrawf coronafeirws arall ar ôl cyrraedd y wlad.
Darllenwch y stori'n llawn yma.