Newyddion S4C

‘Syfrdanu’ bod hyfforddiant etholaethol yng Ngwynedd yn uniaith Saesneg

26/04/2024
Mirain Gwyn

Mae dynes o Benrhyndeudraeth wedi dweud ei bod hi’n anhapus na fydd hi’n gallu llywyddu mewn etholiad yr wythnos nesaf am nad yw’r hyfforddiant ar gael yn Gymraeg.

Mae Mirain Gwyn wedi bod yn swyddog llywyddu ('presiding officer') yn ei gorsaf bleidleisio leol am 20 mlynedd.

Ond ni fydd wrth y blwch pleidleisio yn Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd eleni oherwydd ei bod wedi gwrthod cwblhau hyfforddiant uniaith Saesneg, meddai.

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod nhw  hefyd yn “rhwystredig” nad yw’r hyfforddiant ar gael yn Gymraeg.

Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol sy’n darparu’r hyfforddiant ar eu cyfer ar hyn o bryd, medd y cyngor.

Dywedodd y corff hwnnw wrth Newyddion S4C mai cyfrifoldeb swyddogion canlyniadau - sy’n cael eu penodi gan gynghorau - oedd darparu’r hyfforddiant.

Dim ond un opsiwn oedd eu cyrsiau arlein, medden nhw.

Dywedodd Ms Gwyn ei bod hi’n “syfrdanu yn hollol” nad oedd hi’n cael cyflawni ei dyletswyddau am nad oedd hi’n fodlon cwblhau yr hyfforddiant uniaith Saesneg.

Ychwanegodd ei bod yn teimlo ei bod yn “mynd yn ôl i oes yr Welsh Not,” meddai.

“Lle mae’i polisi iaith nhw? Lle ma’i cydraddoldeb nhw? Lle ma’i cyfle cyfartal nhw?” meddai.

Ychwanegodd: “Mae’r Llywodraeth eisiau cyrraedd y nod o miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond does na ddim gobaith.”

‘Dim opsiwn Cymraeg’

Mae’r hyfforddiant ar-lein gorfodol ar gyfer swyddogion llywyddu wedi ei ddarparu gan Gymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol ar ran Cyngor Gwynedd.

Cyn y pandemig roedd yr hyfforddiant yn wirfoddol ac yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb gyda’r opsiwn i’w gwblhau yn Gymraeg neu Saesneg.

Ond yn 2022, yn ystod yr etholiadau lleol diwethaf yng Nghymru, dim ond hyfforddiant cyfrwng Saesneg oedd ar gael.

Image
etholiad

Dywedodd Ms Gwyn ei bod wedi gwrthod cwblhau’r hyfforddiant ond gan ei fod yn wirfoddol adeg hynny roedd wedi cael cymryd y swydd.

“Does ‘na ddim byd wedi newid," meddai.

“Maen nhw [Cyngor Gwynedd] wedi cael dwy flynedd i baratoi i wneud yr hyfforddiant yn Gymraeg achos oedden nhw’n gwybod yn yr etholiad diwethaf bod ‘na broblem oherwydd o’n i wedi codi’r broblem.

“Rŵan mae’r swyddog wedi diswyddo fi achos bo' fi ddim yn gwneud yr hyfforddiant yn Saesneg.

“Does ‘na ddim opsiwn Cymraeg o gwbl - dw i hyd yn oed ‘di siarad efo rheolwr etholiadol Cyngor Gwynedd i gael yr hyfforddiant, i gael cyfieithydd, ond mae nhw 'di gwrthod.”

‘Rhwystredigaeth’

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Gyngor Gwynedd nad oedd Mirain Gwyn wedi ei diswyddo, am mai cael eu penodi fesul etholiad oedd swyddogion llwyddu.

“Yng Ngwynedd, fel ym mhob sir arall, ar adeg etholiad mae nifer sylweddol o unigolion yn cael eu penodi i weithio yn y gorsafoedd pleidleisio ac yn y cyfrif yn benodol gan dderbyn taliad unwaith ac am byth,” meddai llefarydd.

“Er mwyn sicrhau fod etholiadau yn cael eu cynnal yn deg a chyfreithlon, rhaid i’r holl staff achlysurol hyn gwblhau’r hyfforddiant manwl a diweddaraf sydd, yn yr achos yma yn cael ei ddarparu gan Gymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol. Mae’n ofyn gan y Comisiwn Etholiadol fod staff holl orsafoedd yn derbyn hyfforddiant angenrheidiol os am ymgymryd â’r gwaith.

“Fel Cyngor, rydym yn llwyr gytuno y dylai’r holl hyfforddiant a ddarperir gan Gymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, gan gynnwys y gofynion diweddaraf am drefniadau newydd sy’n ymwneud â dogfennau adnabod etholwyr a derbyn pleidleisiau post, fod ar gael yn y Gymraeg."

Ychwanegodd y cyngor: “Rydym wedi cyfleu ein rhwystredigaeth nad yw’r Gymdeithas wedi trefnu deunyddiau Cymraeg yn ddigon buan. Mewn ymateb, mae Gwasanaeth Etholiadol Cyngor Gwynedd wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd hyfforddiant dilynol drwy gyfrwng y Gymraeg i gefnogi’r staff gorsafoedd.

“Os na fydd darpariaeth Gymraeg ar gael i’r dyfodol, byddwn yn edrych i greu ein hyfforddiant ein hunain yn hytrach na darpariaeth allanol ac yn ceisio dwyn perswâd ar Awdurdodau Lleol eraill i gydweithio gyda ni ar hynny yn hytrach na defnyddio’r darpariaeth uniaith Saesneg.”

'Cyfrifoldeb'

Dywedodd Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol eu bod nhw’n un o nifer o gyrff oedd yn darparu hyfforddiant ar gyfer staff oedd yn gweithio mewn gorsafoedd pleidleisio.

Mae pob Swyddog Canlyniadau yn rhydd i ddewis a ydynt yn gofyn am hyfforddiant allannol ac, os felly, gan bwy, meddai’r Prif Weithredwr Peter Stanyon.

“Dechreuon ni gynnig hyfforddiant e-ddysgu i staff gorsafoedd pleidleisio yn 2021. Gyda’r galw’n cynyddu, rydyn ni hefyd yn bwriadu cynnig fersiwn Gymraeg ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026.

“Oherwydd newid deddfwriaethol cyson, ac ansicrwydd am ddyddiad etholiad cyffredinol y DU, rydym bob amser wedi bod yn glir mai dim ond yn Saesneg y byddai ein hyfforddiant 2024 ar gael. 

“Mae swyddogion canlyniadau yn aml yn ategu ein hyfforddiant i adlewyrchu amgylchiadau lleol."

Ychwanegodd: “Mae’n parhau i fod yn gyfrifoldeb ar bob swyddog canlyniadau i ddarparu hyfforddiant priodol ar gyfer eu staff gorsafoedd pleidleisio. 

“Dim ond un opsiwn i ddewis ohono yw ein hyfforddiant e-ddysgu.”

‘Rhaid sefyll i fyny’

Mae Mesur yr Iaith Gymraeg 2011 yn gofyn i gyrff cyhoeddus Cymru drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal wrth ymgymryd â’u busnes cyhoeddus.

Mae Ms Gwyn yn teimlo y dylai cyrff cyhoeddus orfod cynnig hyfforddiant i staff yn Gymraeg hefyd.

“Fysa chi ddim yn mynd i Ffrainc ac yn cynnal etholiad a dweud wrth bawb sy’n gweithio yn yr etholiad bod y cwrs yn Saesneg, achos mi fysa ‘na le ‘na. Mae’r peth yn hollol anfoesol,” meddai.

Dywedodd Ms Gwyn ei bod wedi cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg yn 2022 a 2024 ynglŷn â chael hyfforddiant llywyddol Gymraeg.

Ond dywedodd ei bod wedi cael ei “gadael i lawr” ganddynt. 

“Bob tro dw i’n cysylltu efo nhw, does ‘na ddim byd yn cael ei weithredu. Mae o’n gwbl warthus bod hyn yn digwydd yn yr oes yma. ‘Da ni eisiau gweithred, mae’n rhaid i ni sefyll i fyny."

‘Dim rheidrwydd’

Wth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: “Pan ddaeth y mater hwn i’n sylw yn 2022 nodwyd wrth yr achwynydd nad oedd yn bosib i ni gynnal ymchwiliad statudol gan nad yw Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol na rôl y Swyddog Canlyniadau, sydd yn annibynnol o’r Cyngor, yn dod o dan Safonau’r Gymraeg. 

“O ganlyniad nid oes rheidrwydd arnynt i gynnig hyfforddiant yn Gymraeg.

“Byddwn serch hynny yn cysylltu â’r Gymdeithas i’w hannog i ystyried datblygu hyfforddiant dwyieithog a byddwn yn barod i gynnig cymorth perthnasol er mwyn galluogi i hynny ddigwydd.

“Os na fydd hynny’n digwydd mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi nodi eu bwriad i edrych i greu eu hyfforddiant eu hunain yn hytrach na darpariaeth allanol a byddwn yn awyddus i gefnogi’r Cyngor a chydweithio â hwy wrth ei ddatblygu ac i geisio dwyn perswâd ar Awdurdodau Lleol eraill i ymrwymo i’r hyfforddiant hynny.”

‘Gwarthus’

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith wrth Newyddion S4C bod "diffyg gweithredu" gan Gomisiynydd y Gymraeg a Chyngor Gwynedd i sicrhau hawliau Ms Gwyn i ddefnyddio ei hiaith yn ystod y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn "warthus."

"Yn 2024, dylai bod gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i ddefnyddio’u hiaith ym mhob agwedd o’u bywydau," medden nhw.

Ychwanegodd eu bod wrthi'n cysylltu gyda Chomisiynydd y Gymraeg a Chyngor Gwynedd am "eglurder" dros y sefyllfa, gan ddweud eu bod yn gobeithio y byddai modd i Mirain Gwyn ail-afael yn ei chyfrifoldebau.

Yn ogystal, dywedodd Dylan Bryn Roberts, sef Prif Weithredwr mudiad Dyfodol i'r Iaith, fod methiant Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol i ddarparu hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg yn dangos "diffyg dealltwriaeth sylfaenol o anghenion cyhoeddus cenedl ddwyieithog."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.