Ethol Lucy Powell yn ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur

lucy powell 2.jpg

Mae Lucy Powell wedi cael ei hethol yn ddirprwy arweinydd newydd y Blaid Lafur.

Roedd y ras am y swydd rhwng Ms Powell a'r Ysgrifennydd Addysg Bridget Phillipson.

Fe dderbyniodd Ms Powell 87,407 o bleidleisiau, gyda Ms Phillipson yn derbyn 73,536 pleidlais.

Fe gafodd y cyhoeddiad ei wneud gan yr Ysgrifennydd Cartref Shabana Mahmood.

Bydd yn olynu Angela Rayner, a ymddiswyddodd ym mis Medi.

Fe ymddiswyddodd Ms Rayner wedi i ymchwiliad ddyfarnu ei bod wedi torri rheolau yn ymwneud â safonau gweinidogol ar ôl cyfaddef iddi beidio â thalu digon o dreth stamp ar eiddo.

Fe wnaeth hi arbed £40,000 mewn treth stamp wrth brynu fflat yn Hove, de Lloegr, oherwydd iddi dynnu ei henw oddi ar weithredoedd ei chartref teuluol yn ei hetholaeth yn Ashton-under-Lyne ger Manceinion. 

Fe wnaeth Ms Powell, sydd yn AS ar gyfer Canol Manceinion, gael ei diswyddo o gabinet Syr Keir Starmer ym mis Medi.

Mae hi wedi awgrymu y byddai'n gwrthod cynnig i ddychwelyd i rôl yn y llywodraeth fel bod modd iddi siarad yn fwy agored am gyfeiriad y blaid.

Mae wedi mynnu ei bod eisiau "helpu Keir a'n Llywodraeth i lwyddo" ond bod angen i'r blaid "newid sut yr ydym ni'n gwneud pethau a throi pethau o gwmpas".

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.