Medal aur i Josh Tarling ym mhencampwriaethau trac y byd
Mae’r Cymro Josh Tarling wedi ennill medal aur yn y ras bwyntiau ym mhencampwriaethau seiclo trac y byd yn Santiago yn Chile.
Fe wnaeth Tarling, sy’n 21 oed o Aberaeron yng Ngheredigion, ennill medal aur gyntaf Prydain yn y bencampwriaeth yn Chile trwy gipio ras bwyntiau'r dynion, gan gasglu 750 pwynt dros y 40km.
Er iddo groesi’r llinell yn ail roedd wedi crynhoi digon o bwyntiau yn ystod y ras i gipio’r brif wobr.
Dyma’r tro cyntaf i Tarling gystadlu ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, a fe yw'r dyn Prydeinig cyntaf i ennill teitl y ras bwyntiau ers 2016.
Dywedodd Tarling ar ôl y ras: "Doeddwn i ddim yn gwybod sut fyddai pethau’n mynd na sut fydda i'n teimlo, felly roedd peidio â gwybod yn frawychus."
Daw buddugoliaeth Tarling yn dilyn medal arian i Emma Finucane, o Gaerfyrddin, yn y ras wib i dîm Prydain ddydd Iau.