'Rhywbeth sbeshial i foi sbeshial': Lansio ysgoloriaeth er cof am Huw Gethin Jones
'Rhywbeth sbeshial i foi sbeshial': Lansio ysgoloriaeth er cof am Huw Gethin Jones
Mae ysgoloriaeth newydd er cof am Huw Gethin Jones yn gyfle i "adael gwaddol er cof am foi sbeshial" yn ôl ei wraig.
Bu farw Huw yn sgil cymhlethdodau Covid-19 yn 2021, ac mae ‘Ysgoloriaeth Huw Geth’ wedi ei sefydlu er cof amdano ac fe'i sefydlwyd ar y cyd gan ei wraig, Teleri Mair Jones a Rondo Media.
Mae cyfle i ddysgwyr sy'n dilyn cyrsiau Teledu a Ffilm, Cyfryngau, Cerddoriaeth, a Chelfyddydau Perfformio yng Ngholeg Menai wneud cais am yr ysgoloriaeth sy'n werth £1,000.
"O’dd Huw yn foi sbeshial, o’dd o’n foi arbennig, o’dd o’n medru g’neud rwbath rili, so o’n i isio cael rwbath sbeshial i gofio amdana fo," meddai Teleri wrth Newyddion S4C.
Cyn ei farwolaeth, roedd Huw yn gweithio fel golygydd i gwmni teledu Rondo.
"O’dd Huw, ei waith bob dydd o oedd golygydd yn Rondo, fuodd o efo Antena cyn hynny, wedyn fuodd o’n g’neud hynny am flynyddoedd," meddai Teleri.
"O’dd o wrth ei fodd efo’i waith, o’dd o’n bendant yn berffeithydd yn ei waith, ag o’dd o’n dod adra ag o’dd o wrth ei fodd, o’dd o mor angerddol am yr ochr ôl-gynhyrchu o betha’, dim jest bod ar gamera.
"Mi fasa fo wedi bod ar gamera, o’dd o’n berfformiwr hefyd, o’dd Huw yn un o’r bobl ‘na o’dd yn medru neud bob dim."
Bwriad yr ysgoloriaeth ydy cefnogi datblygiad gyrfa'r dysgwyr, ac fe fydd hefyd yn cynnwys cyfleoedd mentora pwrpasol gan weithwyr yn Rondo Media.
"O’n i wedi penderfynu yn fuan ar ôl ei golli fo bo’ fi isio neud rwbath sbeshial i gofio amdana fo achos o’dd o yn foi sbeshial," meddai Teleri.
"Fues i'n sgwrsio efo Rondo yn reit gynnar ar ôl colli Huw bo' ni isio neud wbath ond na'th o gymryd 'chydig o flynyddoedd i ni benderfynu ar be yn union oeddan ni yn mynd i neud.
"Oedd 'na griw o ffrindia Huw 'chydig ar ôl ei farwolaeth o wedi gwneud taith feics a rhedeg i godi pres er cof amdana fo ag a'th hwnna i gronfa, ag oedd 'na gelc sylweddol yna ag o'n i'n meddwl, 'Dwi isio gwneud wbath arbennig neith bobl elwa ohono.'"
Mae Bedwyr Rees yn uwch-gynhyrchydd gyda Rondo, ac roedd yn gydweithiwr i Huw yn y cwmni.
"O'dd Huw yn aelod eithriadol o werthfawr o staff, o'dd o'n un o'r bobl 'na o'dd yn ffrindia efo pawb, o'dda chdi'n gw'bod pan oedd Huw yn y 'sdafall, o'dd o'n llawn hwyl," meddai wrth Newyddion S4C.
"O'dd Huw yn ddyn o gryn ddiwylliant a dwi'n meddwl bod o'n deilwng wedyn bo' ni yn ei goffáu o drwy gefnogi diwylliant a chreadigrwydd yn y gogledd, o'dd o'n amryddawn iawn... dwi'n meddwl bod o'n addas wedyn bod ysgoloriaeth fel 'ma yn cefnogi y genhedlaeth nesa' o gerddorion neu o berfformwyr, unrhyw un o unrhyw gefndir creadigol.
"Dwi'n meddwl 'sa Huw 'di bod yn falch o'r peth ac yn gefnogol o'r math yma o gynllun."
Ychwanegodd Teleri: "Ddo'th y syniad o'r ysgoloriaeth drwy fi yn siarad efo Rondo ag oeddan nhw'n sôn bo genna nhw bartneriaeth newydd yn dechra efo Coleg Menai a ma' 'na adran berfformio yn y coleg felly nathon ni sgwrsio efo Coleg Menai.
"Wedyn dyma benderfynu ar yr ysgoloriaeth 'ma fydd yn mynd i un dysgwr o'r adran 'na o'r Coleg, fydd 'na £1,000 i'r person yna gael gwneud be' ma' nhw isio efo fo, ond bo' nhw'n deutha ni be ydi'r bwriad."
Paul Edwards ydy Rheolwr Celfyddydau Creadigol Coleg Menai, ac roedd yn ffrindiau ac yn aelod o fand Band6 gyda Huw.
"Ma'n ffantastig bod 'na gyfle fel yr ysgoloriaeth yma, a diolch ofnadwy i Rondo am gefnogi hyn a Teleri hefyd.
"Ma' genno ni lot o ddysgwyr sy'n ysu isio mynd i weithio yn y byd teledu a ffilm a ddim yn gw'bod sut i fynd fewn 'lly," meddai wrth Newyddion S4C.
"Bwriad y coleg yn fa'ma ydi rhoi hyfforddiant i bobl 16-19 er mwyn symud ymlaen i'r cam nesa' a cychwyn eu gyrfaoedd felly dwi'n meddwl bod o'n apt iawn bod 'na Ysgoloriaeth Huw Geth er cof am Huw Geth."
Ychwanegodd Paul: "Mae o'n dangos y pwysigrwydd i bobl ifanc fod 'na swyddi Cymraeg a gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y cyfryngau yn yr ardal yma, a'r gobaith ydy y bydd y dysgwyr yn cael ysbrydoliaeth gan Ysgoloriaeth Huw Geth er mwyn gallu mynd i weithio yn y diwydiant yn lleol ac yn Gymraeg.
"Dyna be o'dd Huw yn neud..o'dd o'n byw yn lleol, nid yn unig o'dd o yn y band efo fi, o'dd o'n rhedeg cwmni yn lleol hefyd, yn gweithio yn lleol, a wedyn yn y corau a dyna 'dan ni angen - cael y pobl ifanc yn ôl i gael y bwrlwm 'ne yn y gogledd."
Mae cynnig cyfleoedd yn y diwydiant teledu a pherfformio yn y gogledd hefyd yn bwysig yn ôl Teleri.
"Yn amlwg yn y byd cyfryngau, ma' lot o betha' yn digwydd lawr yng Nghaerdydd neu dros y ffin felly ma' cael cwmni fel Rondo yn y gogledd yn arbennig iawn, dwi'n meddwl bod o'n bwysig os oes 'na rywun isio mynd i fewn i'r byd yna, mae o mor bwysig i ni drio hybu ac annog nhw," meddai.
"Dwi'n gobeithio neith hwn roi'r hwb yna i unigolion ag ella nawn ni ffeindio rywun sbeshial sy'n deilwng o'r wobr."
Ychwanegodd Bedwyr Rees: "Ma' cadw talent yn y gogledd yn rw'bath sydd yn bwysig i ni, a hybu creadigrwydd a cyflogaeth yng nghadarnleoedd yr iaith Gymraeg yn sylfaenol, cadw'r sgiliau yma er mwyn y genhedlaeth nesa i allu teimlo bo' nhw'n gallu dilyn gyrfa yn y gogledd a chyfrannu i fywyd diwylliannol yr ardal.
"Mae o jyst yn addas bod rw'bath fel 'ma er cof am Huw jyst oherwydd y math o ddyn oedd o, o'dd o'n ddyn pobl, a teimlo yn gryf dros yr iaith, yr ardal leol a felly dwi'n meddwl bod nifer o amcanion yr ysgoloriaeth yn debyg iawn i foesau Huw ei hun."
Byddai Huw wedi elwa o gael ysgoloriaeth debyg pan yr oedd yn iau yn ôl Teleri.
"Mi fasa fo wedi bod yn rwbath fysa Huw wedi rili gwerthfawrogi pan o'dd o'n iau. Na'th o orfod neud y gwaith calad o yrru llwyth o fideos o waith o'dd o 'di neud i'r cwmnïa' 'ma i gyd," meddai Teleri.
"Felly fysa rwbath fel 'ma wedi bod mor amhrisiadwy idda fo a 'dan ni'n lwcus iawn o Goleg Menai, ma'r adnoddau sgenna nhw yna yn anhygoel a rŵan y bartneriaeth 'ma efo Rondo.
"Dwi'n gobeithio fydd o'n rw'bath arbennig iawn i un person."
Y gobaith ydy y bydd yr ysgoloriaeth yn cael ei chynnal am ddeng mlynedd, ac mae Teleri yn gobeithio y bydd yn gadael gwaddol er cof am Huw.
"Dwi’n meddwl neith o adael gwaddol, ma’n drist bod Huw ddim yma yn amlwg, ond dwi jyst yn gobeithio fod o ddigon teilwng i gofio amdana fo.
"Mae o’n ffordd amlwg i gofio amdana fo, a dwi’n meddwl bod o jyst yn rwbath ‘dan ni mor falch o fedru rhoi y cyfla i bobl tebyg idda fo, sydd isio g’neud rwbath tebyg idda fo, a ma’ hwnna jyst yn rwbath arbennig i ni fel teulu."