Carcharu dyn o Sir Gâr ar ôl darganfod cyffuriau mewn locer storio yn Llanelli

25/10/2025
Cocên

Mae dyn 37 oed o Lanelli wedi ei garcharu am dair blynedd ar ôl i’r heddlu ddarganfod cyffuriau a dros £46,000 o arian mewn locer storio yn y dref.

Ym mis Medi fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys ddilyn fan Matthew Davies, sy’n cael ei adnabod gyda’r llysenw ‘Hillbilly”, oherwydd eu bod nhw’n amau ei bod yn cael ei gyrru gan rywun oedd wedi ei wahardd rhag gyrru.

Fe geisiodd Davies ddianc rhag yr heddlu gan adael locer storio yn ardal Dafen o’r dref ar agor.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i 17 pecyn o gocên a gwerth tua £7000 o ganabis yn y locer. 

Fe ddaeth swyddogion hefyd o hyd i dros £46,000 mewn arian parod mewn bwndeli o bapurau £10 ac £20. 

Plediodd Davies yn euog hefyd i feddu ar eiddo troseddol a chafodd ei orchymyn i roi’r £46,000 mewn arian parod i Heddlu Dyfed-Powys.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Steve Thomas: “Rwy’n gobeithio bod yr achos hwn yn dangos bod gennym ni ffyrdd a chymhelliad i ymchwilio ac erlyn y rhai sy’n diystyru diogelwch y cyhoedd drwy werthu cyffuriau yn ein cymuned. Byddwn ni’n gweithredu’n gadarn yn erbyn cyffuriau yn ein hardal.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.