Cwt pren ar werth am £200,000 yn Abersoch
Mae caban pren ar draeth mewn pentref yng Ngwynedd ar werth am £200,000.
Yn ôl yr arwethwyr, mae’r caban dros 10 medr sgwâr ar draeth Porth Mawr ger canol y pentref, yn “adeilad newydd sbon, sydd wedi ei godi ar safle hen sied, ac mae newydd gael ei orffen y mis hwn”.
Mae pris y caban ychydig yn llai na phris cyfartalog tŷ yng Nghymru, sydd yn £210,000 yn ôl ffigyrau swyddogol.
Dywedodd yr arwerthwr Beresford Adams: "Dyma gyfle cyffrous i gaffael caban newydd sbon mewn safle blaenllaw ar lan y môr, a gwblhawyd ym mis Mai 2026, mewn lleoliad amlwg ar brif draeth Abersoch.
"Wedi'i adeiladu i safonnau modern uchel, mae'r caban yn cynnwys ffrâm bren wydn gyda'r tu allan wedi ei orchuddio â chladin phlastig, mae'r tu mewn wedi ei ddatblygu fel bod modd mwynhau'r caban drwy'r flwyddyn.
"Gan fesur tua 3.3m x 3.5m yn fewnol, mae'r cwt hefyd yn elwa o falconi pren allanol, lle delfrydol i ymlacio a mwynhau'r amgylchoedd godidog."
"Ased arfordirol prin ac eiconig mewn lleoliad poblogaidd iawn."
Llun:RightMove/Beresford Adams