Targedau codi arian Eisteddfod yr Urdd ‘ddim yn cynyddu’ er bod yr ŵyl yn ymestyn i saith diwrnod

Llio Maddocks

Ni fydd targedau codi arian Eisteddfodau Urdd y dyfodol yn cynyddu er bod yr ŵyl yn cael ei chynnal dros saith diwrnod am y tro cyntaf eleni, yn ôl Cyfarwyddwr Celfyddydol yr Urdd.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Llio Maddocks nad oes bwriad i addasu targedau ariannol pwyllgorau gwaith y dyfodol yn sgil y newid.

Mae'r yr ŵyl yn cael ei chynnal ar Gae Sioe Môn rhwng 23 a 29 Mai eleni, gan ymestyn dros saith diwrnod yn hytrach na’r chwe niwrnod arferol.

Daw hynny wedi i wirfoddolwyr Ynys Môn gyrraedd eu targed o £380,000 ar gyfer Eisteddfod yr Urdd eleni, targed a gafodd ei osod ym mis Medi 2023.

Yn ôl Urdd - Gobaith Cymru, mae targedau codi arian yn cael eu gosod flynyddoedd ymlaen llaw.

Mae’r targed ar gyfer Eisteddfod Bro'r Wenynen yng Ngwent yn 2027, eisoes wedi’i osod, ac mae’r Urdd bellach yn trafod targed Eisteddfod yr Urdd Eryri 2028 gyda’r Pwyllgor Gwaith.

Dywedodd Ms Maddocks fod cynnal Eisteddfod yr Urdd yn costio tua £2.6m bob blwyddyn, ond nid yw ymestyn yr ŵyl i gynnwys un diwrnod yn ychwanegol yn golygu cynnydd sylweddol yn y costau craidd.

“Does yna ddim cost ychwanegol o ran yr adnoddau sydd eu hangen i gynnal y maes, o gynnal Eisteddfod saith diwrnod neu chwe diwrnod,” meddai.

“Felly dydy’r gwariant ddim o reidrwydd yn cynyddu.

“Mae o jyst yn golygu bod ni’n gallu agor yr Eisteddfod am ddiwrnod ychwanegol i’r cyhoedd allu mwynhau rhoi bach mwy o’r celfyddydau, cystadlu ac yn y blaen.

“Felly fyddwn ni ddim yn edrych i addasu targed Pwyllgor Gwaith i’r dyfodol.”

Image
Arwydd pob lwc gefn llwyfan yn Eisteddfod yr Urdd

Dywedodd Ms Maddocks fod yr Urdd - Gobaith Cymru “mor falch” o wirfoddolwyr Ynys Môn eleni.

“Maen nhw wedi gweithio’n ofnadwy o galed i gyrraedd y targed ariannol yma,” meddai.

“Maen nhw wedi gweithio’n ddiflino am dair mlynedd, a ddim jyst i godi’r arian chwaith, ond i godi’r bwrlwm ac i wneud yn siŵr bod pawb ar yr ynys wedi cael cyfle i fod yn rhan o’r Eisteddfod mewn rhyw ffordd.”

Mae’r Urdd yn derbyn arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru drwy nifer o grantiau, yn ogystal â chefnogaeth noddwyr, partneriaid a thargedau codi arian lleol.

Wrth sôn am ddatblygu’r eisteddfod ymhellach, dywedodd Ms Maddocks fod “penderfyniad am gyllid, yn y pen draw, yn dod gan y llywodraeth”.

‘Cyrraedd ein capasiti’

Ychwanegodd Ms Maddocks fod y penderfyniad i ymestyn eisteddfod yr Urddd i ddiwrnod ychwanegol wedi dod mewn ymateb i gynnydd yn y nifer sy’n cystadlu, ac i alwadau am gystadlaethau newydd.

Hyd at ddiwedd 2024, meddai, doedd yr Urdd erioed wedi cael dros 100,000 o gystadleuwyr o’r blaen.

Yn 2025, fe gyhoeddodd yr Urdd fod 119,000 wedi cystadlu yn yr eisteddfod.

“Roedd gweld y cynnydd yna yn golygu bod ni’n cyrraedd ein capasiti ni o ran y pafiliynau, o ran faint o bobl sy’n gallu bod ar y maes bob diwrnod,” meddai.

“Wedyn, ochr arall y geiniog, mi oedd ein cystadleuwyr ni hefyd yn gofyn am gystadlaethau newydd sbon.”

Yn ôl Ms Maddocks, mae’r awydd i gystadlu yn “amlwg iawn” yn Ynys Môn eleni, gyda dros 14,000 o ddisgyblion wedi cystadlu yn y rhanbarth.

“Mae pobl yn cymryd yr eisteddfod yma o ddifri, a mae hynny' n hyfryd,” meddai.

“Mae’n golygu gymaint i’n plant a’n pobl ifanc ni.”

Fel rhan o’r newid eleni, mae amserlen gystadlu’r eisteddfod wedi’i haildrefnu.

Bydd yr wythnos yn dechrau gyda diwrnod y dysgwyr a nifer o gystadlaethau dawns, cyn symud ymlaen at y cystadlaethau hŷn, dan 25, a’r ysgolion uwchradd.

Bydd y cystadlaethau cynradd yn dod ar ddiwedd yr wythnos.

Dywedodd Ms Maddocks fod yr Urdd wedi ymgynghori gydag aelodau, gwirfoddolwyr, adrannau, aelwydydd ac ysgolion cyn gwneud y newidiadau.

Yn ôl Ms Maddocks, roedd ysgolion uwchradd yn teimlo y gallai’r drefn newydd leihau’r pwysau ar bobl ifanc sydd yng nghanol arholiadau.

“Roedd rhai wedi gorfod penderfynu yn y gorffennol os oedden nhw am gystadlu neu wneud eu gwaith astudio ac yn y blaen,” meddai.

Dywedodd fod y newid yn golygu bod pobl ifanc yn gallu cystadlu a dal ati â’u gwaith astudio.

Bu trafodaethau gyda’r Ffermwyr Ifanc hefyd, gan fod rali clybiau Ynys Môn ac Eryri yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn cyntaf yr eisteddfod.

Dywedodd Ms Maddocks mai dyna oedd “un o’r prif resymau” fod cystadlaethau’r aelwydydd a’r cystadlu hŷn yn cael eu cynnal ar y dydd Sul, er mwyn osgoi gorfodi pobl ifanc i ddewis rhwng y ddau.

Image
Cystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd yn dathlu

Ymhlith y cystadlaethau newydd eleni mae unawd i ddysgwyr, perfformiad unigol ar gyfer unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol, cystadlaethau dawns stepio newydd, a chystadleuaeth côr sioe.

Dywedodd Ms Maddocks fod y gystadleuaeth berfformio i unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol yn un y mae hi’n edrych ymlaen ati “yn fawr iawn”.

“Mae hon yn gystadleuaeth newydd sbon,” meddai.

“Mae yna lot o bobl ifanc yma wedi cystadlu o’r blaen mewn grwpiau ond erioed wedi cael y cyfle i berfformio’n unigol.

“Mae’n gystadleuaeth gwbl agored lle maen nhw’n gallu gwneud unrhyw berfformiad. Mae yna rai wedi canu, rhai wedi chwarae offerynnau, rhai wedi dawnsio, a rhai wedi llefaru.

“Mae honno’n mynd i fod yn arbennig iawn, achos maen nhw’n blant a phobl ifanc sydd wirioneddol yn haeddu llwyfan.”

Bydd unawd i ddysgwyr hefyd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf eleni.

Newidiadau ar y maes

Bydd nifer o newidiadau i’w gweld ar y maes eleni, gan gynnwys ardaloedd newydd i blant cynradd ac aelodau hŷn yr Urdd.

“Eisiau dod â blas, oedden ni, i’r maes o beth sy’n gwneud yr Urdd mor arbennig, sef yr adrannau a’r aelwydydd cymunedol,” meddai Ms Maddocks.

Bydd ardal hygyrch newydd hefyd ar y maes eleni, o’r enw y "Pabell Piws", ger y Ganolfan Groeso.

Dywedodd Ms Maddocks y bydd yr ardal yma ar gael i bobl sy'n teimlo fod y maes “ychydig bach yn ormod iddynt”, neu os oes angen cyngor ynghylch mynediad.

Bydd gwasanaeth BSL hefyd yn cael ei ddarparu o’r babell.

Mae Gŵyl Triban yn cael ei chynnal ar benwythnos cyntaf yr ŵyl eleni, gyda Ciwb ac Aleighcia Scott ymhlith yr artistiaid ar y nos Sadwrn.

Ar y dydd Sul, bydd Noson Mawrion Môn yn cynnwys Gwilym, Fleur de Lys, Cordia ac Elin Fflur.

Bydd yr wythnos hefyd yn cloi gyda pharti pen-blwydd i Mr Urdd, sy’n troi’n 50 eleni.

Yr awenau

Bydd yr awenau yn parhau i fod yn rhan o brif seremonïau Eisteddfod yr Urdd eleni, ar ôl i’r cymeriadau ddenu ymateb cymysg pan gafodd y strwythur newydd ei gyflwyno yn 2023.

Cafodd y chwe Awen eu cyflwyno fel rhan ganolog o’r seremonïau newydd, gyda phob seremoni yn cynrychioli Awen wahanol wedi’i hysbrydoli gan chwedl Taliesin.

Image
Awenau Prif Seremoniau Eisteddfod yr Urdd

Ar y pryd, dywedodd yr Urdd fod y newid yn rhan o ymgais i drawsnewid ac “ail-ddychmygu” teimlad, awyrgylch a strwythur y prif seremonïau.

Fe wnaeth rhai feirniadu’r newid ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddweud bod urddas y seremoni a pharch at yr enillwyr wedi ei golli.

Wrth siarad â Newyddion S4C eleni, dywedodd Ms Maddocks y bydd “ychydig bach o newidiadau” i’r seremonïau, ond na fyddai’n datgelu gormod cyn y seremoni gyntaf.

“Mi fydd yr awenau dal yn rhan o’r seremonïau,” meddai.

“Ond da ni wedi bod yn cydweithio efo Fforwm Ieuenctid Ynys Môn i ddatblygu ychydig bach ar y seremonïau.”

Pan ofynnwyd a fyddai’r chwe awen yn parhau yn Eisteddfod Bro’r Wenynen yng Nghasnewydd y flwyddyn nesaf, dywedodd Ms Maddocks fod yr Urdd yn parhau i ddatblygu’r seremonïau ac i gasglu adborth.

“Dwi ddim eisiau rhoi’n llaw ar fy nghalon rŵan,” meddai.

“Ond y gobaith ydy fod yr awenau efo ni am gyfnod hir i ddod.”

Dywedodd Ms Maddocks mai’r “gobaith” yw y bydd modd parhau â’r drefn saith diwrnod yng Nghasnewydd y flwyddyn nesaf, ond y bydd yr Urdd yn cynnal gwerthusiad ar ôl yr Eisteddfod eleni cyn gwneud penderfyniad terfynol.

“Gobeithio fod o wedi gweithio i bawb,” meddai.

“Ond os oes angen gwneud newidiadau mawr neu fach, yna mi fyddwn ni’n gwrando.”

Mae disgwyl i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud yn ystod yr haf, cyn i’r mudiad cyhoeddi rhestr testunau Eisteddfod yr Urdd 2027.

 

Lluniau: Urdd Gobaith Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.