Y chwilio am geisiwr lloches gafodd ei ryddhau o'r carchar ar ddamwain yn parhau

Hadush Gerberslasie Kebatu

Mae'r chwilio am geisiwr lloches a gafodd ei ryddhau o'r carchar mewn camgymeriad yn parhau. 

Roedd Hadush Gerberslasie Kebatu, 38, yn y carchar am ymosod yn rhywiol ar ferch 14 oed.

Roedd wedi bod yn byw yng ngwesty'r Bell yn Epping cyn iddo gael ei garcharu am 12 mis ym mis Medi. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder David Lammy nos Wener fod Kebatu bellach wedi cyrraedd Llundain wedi iddo ddianc ar ôl iddo gael ei weld yn dal trên yng ngorsaf Chelmsford.

Ychwangodd Mr Lammy fod Heddlu'r Met yn chwilio amdano.

Yn ôl adroddiadau, roedd Kebatu i fod i gael ei anfon i ganolfan gadw mewnfudo i adael y DU, ond fe gafodd ei ryddhau mewn camgymeriad. 

Fe gafodd ei gamgymryd fel carcharor a oedd yn cael ei ryddhau ar drwydded, yn ôl adroddiadau. 

Dywedodd Syr Keir Starmer fod y digwyddiad yn "gwbl annerbyniol".

Mae swyddog carchar wedi cael ei dynnu oddi ar ei ddyletswyddau i ryddhau carcharorion tra bod ymchwiliad ar y gweill.

Fe gyrhaeddodd Kebatu y DU ar gwch bach ddyddiau yn unig cyn y digwyddiad ym mis Gorffennaf, pan ddywedodd wrth ddwy ferch ifanc ei fod eisiau "cael babi gyda'r ddwy" a cheisio eu cusanu, cyn mynd ymlaen i roi ei law ar un o goesau'r merched a chwarae gyda'i gwallt.

Clywodd yr achos fod Kebatu hefyd wedi ymosod yn rhywiol ar ddynes drwy geisio ei chusanu, rhoi ei law ar ei choes a dweud wrthi ei bod yn brydferth.

Cafwyd Kebatu yn euog o bum trosedd yn yr achos ym mis Medi. 

Clywodd y llys yn ei wrandawiad dedfrydu mai ei “ddymuniad cadarn” oedd gadael y DU.

Y gred yw fod y Swyddfa Gartref yn barod i fynd ag ef i ganolfan cyn iddo adael y DU.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.