Jess Fishlock i chwarae ei gêm olaf dros Gymru

Jess Fishlock

Fe fydd prif sgoriwr Cymru Jess Fishlock yn chwarae ei gêm olaf dros Gymru ddydd Sadwrn. 

Gêm gyfeillgar yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Dinas Caerdydd fydd y cyfle olaf i Fishlock, 38 oed, ychwanegu at y cyfanswm o 48 o goliau y mae hi wedi sgorio dros ei gwlad. 

Fishlock ydy prif sgoriwr Cymru, gyda phrif sgoriwr y dynion, Gareth Bale, wedi sgorio 41 o goliau. 

Hi ydy'r fenyw hynaf erioed i sgorio ym mhencampwriaethau Ewrop y menywod, wedi iddi sgorio yn erbyn Ffrainc yn ystod Euro 2025 dros yr haf, a hithau yn 38 oed. 

Mae'n chwarae fel chwaraewr canol cae i dîm Seattle Reign yn America, ac mae wedi chwarae dros glybiau ar draws y byd, gan gynnwys Glasgow, AZ Alkmaar yn yr Iseldiroedd, Melbourne Victory a Melbourne City yn Awstralia, a FFC Frankfurt yn Yr Almaen.

Mae Fishlock eisoes wedi datgan ei bwriad i barhau i chwarae i Seattle Reign am dymor arall.

Fe fydd ei chytundeb presennol yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, ond mae'n gobeithio arwyddo cytundeb blwyddyn newydd gyda'i chlwb.

"Dwi'n gobeithio parhau am un flwyddyn arall," meddai.

"Dwi ddim yn bwriadu ymddeol yn gyfan gwbl, dim ond o bêl-droed rhyngwladol am y tro."

Fe fydd Fishlock yn chwarae gêm rhif 166 dros ei gwlad ddydd Sadwrn.

Wedi ymddeoliad Fishlock, fe fydd Cymru yn canolbwyntio ar geisio cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2027. 

Mae Kayleigh Barton hefyd wedi cyhoeddi ei hymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol.

Ond er fod Cymru bellach wedi colli gwerth 250 o gemau o brofiad, mae Fishlock yn dal i gredu y gallai Cymru gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn eu hanes.

"Dwi'n hyderus iawn. Dyna beth sydd hefyd yn gwneud y penderfyniad yma yn gymaint haws," meddai. 

"Mae'r grŵp o chwaraewyr sydd gennym ni, a'r rheolwr - dydy hi byth yn hawdd ffarwelio, ond pan ydych chi'n edrych ar yr hyn yr ydym ni wedi ei greu a'r chwaraewyr sydd gennym ni, dwi'n gwybod fod Cymru mewn dwylo diogel."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.