Achos o ffliw adar wedi'i gadarnhau yn Sir Ddinbych
25/10/2025
Mae achos o ffliw adar pathogenig iawn wedi'i gadarnhau ar safle ger Cynwyd yn Sir Ddinbych.
Cadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru yr achos ddydd Sadwrn.
Math o firws yw ffliw adar sy'n effeithio ar ddofednod ac adar gwyllt.
Mae yna nifer o fathau gwahanol o ffliw adar ac nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn heintio pobl.
Mae Parth Gwarchod 3km a Pharth Gwyliadwriaeth 10km wedi'u sefydlu o amgylch y safle heintiedig er mwyn ceisio atal y ffliw rhag lledaenu.
