Jess Fishlock wedi chwarae ei gêm olaf dros Gymru
Mae prif sgoriwr Cymru Jess Fishlock wedi chwarae ei gêm olaf dros Gymru.
Colli 1-2 oedd hanes Cymru yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn, gyda'r ferch o Drawsfynydd Mared Griffiths yn sgorio ei gôl gyntaf dros ei gwlad.
Fishlock ydy prif sgoriwr Cymru gyda 48 o goliau mewn 166 o gemau, gyda phrif sgoriwr y dynion, Gareth Bale, wedi sgorio 41 o goliau.
Hi ydy'r fenyw hynaf erioed i sgorio ym mhencampwriaethau Ewrop y menywod, wedi iddi sgorio yn erbyn Ffrainc yn ystod Euro 2025 dros yr haf, a hithau yn 38 oed.
Mae'n chwarae fel chwaraewr canol cae i dîm Seattle Reign yn America, ac mae wedi chwarae dros glybiau ar draws y byd, gan gynnwys Glasgow, AZ Alkmaar yn yr Iseldiroedd, Melbourne Victory a Melbourne City yn Awstralia, a FFC Frankfurt yn Yr Almaen.
Mae Fishlock eisoes wedi datgan ei bwriad i barhau i chwarae i Seattle Reign am dymor arall.
Fe fydd ei chytundeb presennol yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, ond mae'n gobeithio arwyddo cytundeb blwyddyn newydd gyda'i chlwb.
"Dwi'n gobeithio parhau am un flwyddyn arall," meddai.
"Dwi ddim yn bwriadu ymddeol yn gyfan gwbl, dim ond o bêl-droed rhyngwladol am y tro."
Wrth sychu'r dagrau i ffwrdd, dywedodd Fishlock wrth y cefnogwyr ar ôl y gêm: "Yr holl gefnogwyr, diolch yn fawr iawn i chi am ddod heddiw a thrwy gydol fy ngyrfa.
"Mae wedi bod yn anrhydedd oes i'ch cynrychioli chi drwy'r amser hwn.
"Gobeithio y byddwch chi'n parhau i gefnogi'r grŵp hwn wrth symud ymlaen.
"Rwyf mor falch o fod yn Gymreig ac mae hyn wedi bod yn fraint fy mywyd felly diolch."