Llys yn clywed honiadau fod prifathro wedi mynd â phlentyn i aros mewn gwestai
Mae llys wedi clywed honiadau fod prifathro yng Ngwynedd wedi mynd â phlentyn i aros mewn gwestai yn ne Cymru er mwyn cael rhyw.
Fe glywodd y rheithgor yn achos Neil Foden fod yr unigolyn, sydd yn cael ei enwi fel 'Plentyn E' yn y llys, mewn sefyllfa yr oedd yn cael ei ddisgrifio fel "perthynas" â’r prifathro yn dilyn cyfnod anodd, gan ddisgrifio Mr Foden fel “partner” ar y pryd.
Dim ond ar ôl i Mr Foden gael ei arestio y gwnaeth "sylweddoli fod y berthynas wedi bod yn wrong”.
Mae Neil Foden yn wynebu 20 cyhuddiad yn ymwneud â throseddau rhyw yn erbyn pump o blant, ac mae'n gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
Fe gyflwynodd bargyfreithiwr yr erlyniad, John Philpotts dystiolaeth fideo, yn dangos cyfweliad Plentyn E gyda'r heddlu.
Dywedodd yn y cyfweliad fod Mr Foden wedi “dechrau dangos diddordeb i ddechrau, a’u bod wedi bod yn ‘ffrindiau’ am gyfnod cyn i natur y berthynas ddechrau mynd yn rhywiol".
“Roeddwn yn aml yn gofyn i fi fy hun pam ein bod yn gwneud hyn, pam ei fod wedi fy newis i, mae ‘na filoedd... allan yna fysa fo wedi gallu ei gael, pam fi?',” meddai.
Gwestai
Fe ddywedodd y plentyn hefyd bod y ddau wedi mynd i ffwrdd i dreulio’r noson mewn gwestai gwahanol yn ne Cymru ar sawl achlysur tra'r oedd y ddau “mewn perthynas".
“Byddwn yn mynd yn y car efo fo, mi fydda ni’n mynd i westai, fyddai o yn mynd i ffwrdd i wneud beth oedd o angen wneud a byddwn i yn mynd i siopa neu rywbeth, yna byddwn yn treulio’r noson yn y gwesty ac yn cael rhyw," meddai.
“Roeddwn yn confused iawn yn ystod y cyfnod, a ddim yn siŵr sut yr oeddwn i fod i deimlo. Mae un peth yn sicr, doeddwn fyth yn teimlo’n anniogel yn ei gwmni.”
Yn ôl Plentyn E, roedd y ddau yn aml yn chwarae gemau rhyw, ac fe fyddai rhwystrau neu ‘restraints’ yn cael eu defnyddio.
Fe bwysleisiodd Plentyn E na wnaeth Mr Foden erioed orfodi unrhyw beth nad oedd eisiau ei wneud.
“Nath o erioed bwsio fi, na fy ngorfodi fi i gael rhyw. Doedd o ddim ond yn digwydd pan oedd y ddau ohonom ni isho fo,” meddai.
Fe fydd yr achos o flaen y Barnwr Rhys Rowlands yn parhau ddydd Llun.
Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan gynnwys yr erthygl hon, mae modd dod o hyd i gymorth yma.