Prif Weinidog Yr Alban yn mynnu na fydd yn ymddiswyddo
Mae Prif Weinidog yr Alban wedi mynnu na fydd yn ymddiswyddo, er gwaethaf y ffaith ei fod yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth.
Mae Ceidwadwyr yr Alban wedi cyflwyno’r cynnig o ddiffyg hyder yn Humza Yousaf fel Prif Weinidog, tra bod Llafur wedi cyflwyno cynnig tebyg, gan ddweud nad oes gan y blaid hyder yn Llywodraeth yr Alban.
Ond yn ystod ymweliad â Dundee ddydd Gwener a drefnwyd ar fyr rybudd ar ôl iddo dynnu allan o araith yn Glasgow, mynnodd Mr Yousaf y byddai'n ceisio aros yn ei swydd.
Wrth siarad â'r cyfryngau yno, dywedodd na fyddai'n ymddiswyddo a'i fod yn bwriadu ymladd y bleidlais o ddiffyg hyder.
Pan ofynnwyd iddo a yw’n bwriadu ymddiswyddo, dywedodd Mr Yousaf wrth asiantaeth newyddion PA: “Na, rwy’n llwyr fwriadu nid yn unig ennill y bleidlais honno ond rwy’n bwriadu ymladd i wneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn parhau i gyflawni blaenoriaethau’r bobl.
"Fel, er enghraifft, buddsoddi mewn tai fforddiadwy.”
'Gêm wleidyddol
Cyhuddodd y gwrthbleidiau o “chwarae gêm wleidyddol”, ac fe ychwanegodd: “Byddwn yn bwrw ymlaen â’r gwaith, a phan ddaw’r bleidlais rwy’n llwyr fwriadu ennill.”
Pan ofynnwyd iddo a fyddai’n gweithio gydag arweinydd Plaid Alba yn Holyrood, Ash Regan, dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n ysgrifennu at yr holl arweinwyr, yn eu gwahodd i gyfarfod mewn ymgais i “wneud i lywodraeth leiafrifol weithio” .
Daeth ei sylwadau wrth iddo frwydro am ei dynged wleidyddol ar ôl gorffen cytundeb rhannu pwerau’r SNP gyda Phlaid Werdd yr Alban yn Holyrood ers bron i dair blynedd.
Yn y cyfamser, mae Ms Regan wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, yn egluro ei gofynion os yw am ei gefnogi.
Dywedodd cyn-weinidog yr SNP, wnaeth newid i fod yn aelod o blaid Alex Salmond, ei bod am weld cynnydd ar annibyniaeth i’r Alban ac amddiffyn “hawliau menywod a phlant”.
Llun: PA