Newyddion S4C

Ymosodiad Ysgol Dyffryn Aman: Dwy athrawes yn diolch am gefnogaeth y gymuned

26/04/2024
Fiona Elias a Liz Hopkins

Mae dwy athrawes a gafodd eu trywanu mewn ymosodiad yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher wedi diolch i'r gymuned am ei chefnogaeth.

Mae Heddlu Dyfed-Powys bellach wedi cadarnhau mai Fiona Elias a Liz Hopkin oedd y ddwy athrawes a gafodd eu trywanu yn yr ysgol ddydd Mercher. 

Fe gafodd plentyn yn ei arddegau ei drywanu hefyd, ac fe gafodd y tri eu rhyddhau o'r ysbyty ddydd Iau. 

Mae merch 13 oed wedi ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli fore Gwener wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri o bobl yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd y ferch ei chadw mewn sefydliad ieuenctid yn dilyn y gwrandawiad.

Cafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys y Goron Abertawe lle bydd y ferch yn ymddangos ar 24 Mai.

Mewn datganiad, dywedodd Fiona Elias, sy'n Ddirprwy Bennaeth yn yr ysgol: "O waelod fy nghalon, hoffwn i a fy nheulu ddiolch o galon am yr holl negeseuon yr ydym ni wedi eu derbyn dros y dyddiau diwethaf. Mae fy nyled yn fawr i'r Heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans a staff y GIG yn Ysbyty Treforys am eu gofal arbennig a'u hymateb sydyn.

"Diolch yn fawr i'r Ambiwlans Awyr am eu gofal arbennig o fy nghydweithiwr, Liz. Mae hwn yn esiampl arall o pa mor bwysig ydy'r gwasanaeth yma i ni yng Nghymru. Fe gafodd tri ohonom ni ein cludo i'r ysbyty gydag anafiadau, ond mae'r digwyddiad yma wedi cael effaith enfawr ar fy nghydweithiwr a'r disgyblion arbennig sydd gennym ni yn Ysgol Dyffryn Aman."

'Dim cymuned debyg i Ysgol Dyffryn Aman'

Ychwanegodd Ms Elias: "Does dim modd rhoi mewn geiriau'r hyn y gwnaeth y staff a'r disgyblion brofi ddydd Mercher. Hoffwn ddiolch i'r holl staff am flaenoriaethu lles a diogelwch ein disgyblion yn yr ysgol am bedair awr, a'r disgyblion am ymateb mor aeddfed a doeth mewn sefyllfa nad oes neb yn disgwyl.

"Un o werthoedd craidd ein hysgol ydi 'gwytnwch', a does dim dwywaith fod ein disgyblion wedi dangos hyn wrth ddelio â sefyllfa na ddylien nhw fyth brofi. 

"Mae'r dyddiau diwethaf wedi dangos nad oes yna unrhyw gymuned yn debyg i gymuned Ysgol Dyffryn Aman, ac fe fyddwn ni'n gweithio i gefnogi ein gilydd yn y dyddiau a'r wythnosau i ddod."

'Anodd deall'

Ychwanegodd Liz Hopkin, sydd yn Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn yr ysgol: "Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i bawb am y gefnogaeth a ddangoswyd i mi a fy nheulu ers y digwyddiad ddydd Mercher.

"Mae Ysgol Dyffryn Aman yn rhan fawr o fy mywyd, ac mae'n anodd deall sut y mae hyn wedi digwydd. Ond, hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i gymuned yr ysgol am yr holl gefnogaeth a'r negseuon caredig. Dwi wedi cael fy llethu gan y caredigrwydd a'r gymuned glos sydd gennym ni yma.

"Dwi'n meddwl ein bod ni bellach angen yr amser i adlewyrchu ar beth ddigwyddodd a felly dwi'n gofyn am breifarwydd i'r ysgol, i fy hun a fy nheulu, fel y gallwn ni gymryd yr amser i adlewyrchu a gwella."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.